Greta Gerwig
Greta Gerwig | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 4 Awst 1983 ![]() Sacramento ![]() |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, cyfarwyddwr ffilm, sgriptiwr, dramodydd, actor ffilm, ysgrifennwr, actor llais, sgriptiwr ffilm, cynhyrchydd ffilm ![]() |
Adnabyddus am | Lady Bird, Little Women, Barbie ![]() |
Partner | Noah Baumbach ![]() |
Gwobr/au | Gwobr Time 100 ![]() |
llofnod | |
![]() |
Actores, sgriptiwraig a chyfarwyddwraig yw Greta Celeste Gerwig (ynganiad: [/]ˈɡɛrwɪɡynganiad: [/]; ganed 4 Awst 1983).[1][2] Daeth i sylw'n wreiddiol ar ôl gweithio ac ymddangos mewn nifer o ffilmiau mumblecore.[3][4] Rhwng 2006 a 2009, ymddangosodd mewn nifer o ffilmiau gan Joe Swanberg, a bu iddi gyd-ysgrifennu a chyd-gyfarwyddo rhai ohonynt.
Ers ddechrau'r 2010au, mae Greta wedi cydweithio â Noah Baumbach ar sawl ffilm, gan gynnwys Greenberg (2010), Frances Ha (2012), a arweiniodd iddi gael ei henwebu am wobr Golden Globe, a Mistress America (2015). Mae hi hefyd wedi perfformio mewn ffilmiau megisDamsels in Distress (2011), To Rome with Love (2012), Jackie (2016), a 20th Century Women (2016).[5]
Yn 2017, ysgrifennodd Greta, a chyfarwyddo wrth i ehun am y tro cyntaf y ffilm ddrama-gomedi Lady Bird, a bu iddi ennill y wobr am Y Ffilm Orau – Cerddorol neu Gomedu yng ngwobrau'r Golden Globe. Am ei gwaith ar Lady Bird, cafodd hefyd ei henwebu am ddwy wobr Academi, am y Cyfarwyddwr Gorau a'r Ddrama Wreiddiol Orau ar gyfer y Sgrîn, ynghyd ag enwebiadau Golden Globe a BAFTA am y Ddrama Sgrîn Orau. Greta oedd y pumed menyw mewn hanes i gael ei henwebu yn y categori Cyfarwyddwr Gorau yn yr Oscars[6]
Ffilmyddiaeth[golygu | golygu cod]
Ffilm[golygu | golygu cod]
Blwyddyn | Teitl | Rôl | Nodiadau |
---|---|---|---|
2006 | LOL | Greta | |
2007 | Hannah Takes the Stairs | Hannah | Cyd-sgriptiwraig hefyd |
2008 | Baghead | Michelle | |
2008 | Yeast | Gen | |
2008 | Nights and Weekends | Mattie | Cyd-sgriptiwr, cyd-gyfarwyddwr a chynhyrchydd hefyd |
2008 | Quick Feet, Soft Hands | Lisa | Ffilm fer |
2008 | I Thought You Finally Completely Lost It | Greta | |
2009 | You Wont Miss Me | Bridget | |
2009 | The House of the Devil | Megan | |
2010 | Greenberg | Florence Marr | |
2010 | Art House | Nora Ohr | |
2010 | Northern Comfort | Cassandra | Cyd-sgriptwraig hefyd |
2010 | The Dish & the Spoon | Rose | |
2011 | No Strings Attached | Patrice | |
2011 | Damsels in Distress | Violet Wister | |
2011 | Arthur | Naomi Quinn | |
2012 | To Rome with Love | Sally | |
2012 | Lola Versus | Lola | |
2012 | Frances Ha | Frances Halladay | Cyd-sgriptwraig hefyd |
2014 | Eden | Julia | |
2014 | The Humbling | Pegeen Mike Stapleford | |
2015 | Mistress America | Brooke Cardinas | Cyd-sgriptwraig a chynhyrchydd hefyd |
2015 | Maggie's Plan | Maggie Hardin | |
2016 | Wiener-Dog | Dawn Wiener | |
2016 | Jackie | Nancy Tuckerman | |
2016 | 20th Century Women | Abigail Porter | |
2017 | Lady Bird | N/A | Sgriptwraig a chyfarwyddwraig |
2018 | Isle of Dogs | Tracy Walker (llais) | |
2018 | Untitled Noah Baumbach Project | Ôl-gynhyrchu |
Teledu[golygu | golygu cod]
Blwyddyn | Teitl | Rôl | Nodiadau |
---|---|---|---|
2011–2015 | China, IL | Pony Merks (llais) | 21 episod |
2014 | How I Met Your Dad | Sally | Peilot i CBS na gafodd ei werthu |
2015 | Portlandia | Morforwyn | Episod: "Doug Becomes a Feminist" |
2016 | The Mindy Project | Sarah Branum | 2 episod |
2017 | Saturday Night Live | Bòs y swyddfa | Episod: "Saoirse Ronan/U2" |
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Heyman, Stephen (28 Ionawr 2010). "The Nifty 50 | Greta Gerwig, Actress". T Magazine. The New York Times. Cyrchwyd 15 Mawrth 2010.
- ↑ "Noah Baumbach Hires Mumblecore's Meryl Streep, Readies Greenberg". New York Observer. 9 Chwefror 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-04-15. Cyrchwyd 15 Mawrth 2010.
- ↑ Bunbury, Stephanie (19 Gorffennaf 2013). "Real to reel: The rise of 'mumblecore'". The Sydney Morning Herald (yn Saesneg). Cyrchwyd 9 Ionawr 2018.
- ↑ "Sweetheart of Early-Adult Angst". NYMag.com. Cyrchwyd 9 Ionawr 2018.
- ↑ Thompson, Anne (2016-12-21). "'20th Century Women': How Mike Mills Empowered Annette Bening and Greta Gerwig". IndieWire (yn Saesneg). Cyrchwyd 2 Mawrth 2018.
- ↑ CNN, Sandra Gonzalez,. "Greta Gerwig's best director nomination is a huge deal". CNN. Cyrchwyd 2 Mawrth 2018.CS1 maint: extra punctuation (link)