La Pobla de Segur

Oddi ar Wicipedia
La Pobla de Segur
Mathbwrdeistref yng Nghatalwnia Edit this on Wikidata
PrifddinasLa Pobla de Segur Edit this on Wikidata
Poblogaeth3,035 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethMarc Baró Bernaduca Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Catalaneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPallars Jussà Edit this on Wikidata
GwladBaner Catalwnia Catalwnia
Arwynebedd32.8 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr524 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaBaix Pallars, Conca de Dalt, Salàs de Pallars, Senterada Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau42.2474°N 0.9673°E Edit this on Wikidata
Cod post25500 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
mayor of La Pobla de Segur Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethMarc Baró Bernaduca Edit this on Wikidata
Map

Mae La Pobla de Segur yn fwrdeistref sydd wedi'i lleoli yn comarca Pallars Jussà, talaith Lleida, Catalwnia, yng ngogledd Sbaen. Fe'i lleolir yng nghymer afonydd Flamicell a Noguera Pallaresa yng ngogledd y comarca, uwchben cronfa ddŵr Sant Antoni. Mae'n ganolfan wasanaeth leol bwysig, sydd wedi caniatáu iddi ddianc rhag y diboblogi sydd wedi effeithio ar lawer o fwrdeistrefi yng ngogledd-orllewin Catalwnia. Gwasanaethir y pentref gan ffordd C-13 rhwng Tremp a Sort, ffordd N-260 i Bont de Suert a chan orsaf reilffordd ar reilffordd i Lleida .

Mae pobl enwog o La Pobla de Segur yn cynnwys y chwaraewr FC Barcelona, Carles Puyol ac Uwch Gynrychiolydd dros y Polisi Tramor a Diogelwch Cyffredin presennol yr Undeb Ewropeaidd, Josep Borrell.

Hanes[golygu | golygu cod]

Roedd yr anheddiad cynharaf yn yr ardal i'r gogledd o'r dref bresennol, a elwir yn El Pui de Segur. Fe'i ymgorfforwyd yn rhan o sir Pallars ar ôl i'r Iarll Guillaume I o Toulouse gipio'r rhanbarth a'r ôl trechu'r Moors yn y nawfed ganrif. Trosglwyddwyd y dref i'w lleoliad presennol yng nghanol y drydedd ganrif ar ddeg, a daeth o dan reolaeth Pere VII el Donzell, Is-iarll Vilamur, yn 1355 . Rhoddodd ei fab Pere VIII y siarter gyntaf i'r dref yn 1363. Byddai rheolaeth yn trosglwyddo i Ddugiaid Cardona yn ddiweddarach.

Mae'r Comú de Particulars yn fenter gydweithredol leol, a sefydlwyd ym 1834 i reoli melin flawd a roddwyd i'r dref gan Ddug Cardona: yn agored i frodorion y dref neu eu priod, mae bellach yn sefydliad diwylliannol sy'n rheoli'r incwm o'r orsaf bŵer hydrodrydanol leol. Mae'r Torre Maure yn grŵp nodedig o adeiladau arddull modernista o ddechrau'r ugeinfed ganrif.

Refferendwm ailenwi promenâd[golygu | golygu cod]

Ym mis Mawrth 2023 cynhaliwyd refferendwm lleol fel rhan o ymgynghoriad ailenwi promenâd yn y dref. Roedd y promenâd wedi'i enwi ar ôl y gwleidydd Josep Borrell sy'n hanu o'r dref, ond roedd 77.6% o'r rhai a fwrodd bleidlais o blaid newid yr enw i 'Promenâd y Y Cyntaf o Hydref' i goffau refferendwm ynghylch annibyniaeth Catalwnia a gynhaliwyd ar 1 Hydref 2017.[1] Roedd Josep Borrell o'r PSOE yn chwyrn yn erbyn annibyniaeth ac wedi rhannu llwyfan gyda chynrychiolwyr asgell dde ac asgell dde eithafol. Aeth mor bell â dweud yn gyhoeddus bod angen "diheintio Catalwnia", ymadrodd a achosodd, oherwydd ei ystyron Natsïaidd amlwg, feirniadaeth lem, ac sydd bellach wedi arwain at y refferendwm yn ei dref enedigol.[2]

La Pobla de Segur.

Demograffeg[golygu | golygu cod]

Esblygiad demograffig
1900 1910 1920 1930 1940 1950 1960 1970 1981 1991 1996 2001 2005 2011 2013
1.549 1.529 1.775 1.883 2.511 2.469 3.288 3. 513 3. 356 3. 114 2. 997 2.789 3.043 3. 246 3.073

Israniadau[golygu | golygu cod]

Mae bwrdeistref La Pobla de Segur yn cynnwys tri phentref anghysbell: rhoddir y poblogaethau fel yr oeddynt yn 2005.

  • Montsor (2)
  • Puimanyons (3), ar lan dde afon Flamicell yn ei chydlifiad â Noguera Pallaresa.
  • Sant Joan de Vinyafrescal (63), i'r de o la Pobla de Segur ar lan dde cronfa ddŵr Sant Antoni.

Pobl nodedig[golygu | golygu cod]

  • Gwleidydd a diplomydd o Sbaen oedd Pedro Cortina y Mauri, (ganwyd La Pobla de Segur, 18 Mawrth 1908 - Madrid, 14 Chwefror 1993 ) a wasanaethodd fel y Gweinidog Materion Tramor olaf o dan Francisco Franco rhwng 1974 a 1975
  • Gwleidydd Sbaenaidd, aelod o Blaid Sosialaidd Sbaen yw Josep Borrell Fontelles, (ganwyd 24 Ebrill 1947). Bu'n Weinidog Gwaith Cyhoeddus ac Amgylchedd Llywodraeth Sbaen (1991-1996) ac yn Llywydd Senedd Ewrop (2004-2007). Ar 4 Mehefin 2018 daeth yn Weinidog Materion Tramor a Chydweithrediad Sbaen.
  • Carles Puyol, (ganwyd 13 Ebrill, 1978), cyn-bêl-droediwr a chwaraeodd dros FC Barcelona a Sbaen fel amddiffynnwr ac enillodd Cwpan y Byd 2010 FIFA .

Chwaer ddinasoedd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Josep Borrell's hometown removes his name from promenade". VilaWeb (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-03-17.
  2. "Video: new Spanish foreign minister talking of "disinfecting" Catalonia". El Nacional (yn Saesneg). 2018-06-04. Cyrchwyd 2023-03-17.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]