Neidio i'r cynnwys

Kristen Johnston

Oddi ar Wicipedia
Kristen Johnston
Ganwyd20 Medi 1967 Edit this on Wikidata
Washington Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Alma mater
Galwedigaethllenor, hunangofiannydd, actor ffilm, actor teledu, actor llwyfan, actor, actor llais Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amThe Flintstones in Viva Rock Vegas Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Primetime Emmy i Actores Gefnogol Arbennig mewn Cyfres Gomedi, Gwobr Primetime Emmy i Actores Gefnogol Arbennig mewn Cyfres Gomedi Edit this on Wikidata

Awdures Americanaidd yw Kristen Angela Johnston (ganwyd 20 Medi 1967) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel hunangofiannydd, actor ffilm, teledu a llwyfan. Mae'n fwyaf adnabyddus fel y cymeriad Sally Solomon yn y gyfres 3rd Rock from the Sun ac enillodd wobr Emmy ddwywaith am 'Actoes Gynorthwyol Arbennig mewn Cyfres Gomedi'. Ymddangosodd hefyd fel Wilma Flintstone yn The Flintstones in Viva Rock Vegas, fel Holly Franklin yn y sitcom The Exes ac yn y sitcom Mom.[1]

Fe'i ganed yn Washington ar 20 Medi 1967.[2] Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Harvard ac Ysgol Theatr Circle in the Square.[3]

Magwraeth

[golygu | golygu cod]

Ganed Johnston yn Washington, D.C., ond fe'i magwyd yn bennaf yn Fox Point, Wisconsin, un o faestrefi Milwaukee, lle mynychodd Ysgol Uwchradd Gatholig St. Eugene ac Ysgol Uwchradd Whitefish Bay.[2] Treuliodd rai o flynyddoedd ei harddegau yn Sweden ac yn Ne America ac enillodd radd Baglor yn y Celfyddydau Cain ym Mhrifysgol Efrog Newydd. Roedd ei thad, Rod Johnston, yn gyn-seneddwr gweriniaethol talaith Wisconsin.[4]

Yn ei hunangofiant, Guts: The Endless Follies and Tiny Triumphs of a Giant Disaster, mae Johnston yn trafod ei dibyniaeth i alcohol a chyffuriau, a ddechreuodd pan oedd yn yr ysgol uwchradd. Crybwyllodd ei bod yn yfed dwy botel o win bob nos ar un adeg.[5] Dywedodd mewn llyfr yn 2012 ei bod wedi bod yn sobr ers pum mlynedd.[6]

Ymddangosodd fel actores broffesiynol am y tro cyntaf gyda Theatr Atlantic Efrog Newydd, cwmni a sefydlwyd gan yr awdur David Mamet.

Yn ystod ei chysylltiad â'r cwmni hwnnw, ymddangosodd mewn cynyrchiadau fel As You Like It a Stage Door, ymhlith llawer o rai eraill. Mae hi wedi perfformio gyda Chwmni Theatr Naked Angels yn The Stand-In a Hot Keys, a gyda New York Stage and Film yn Kim's Sister, gyda David Strathairn a Jane Adams. Ar gyfer ei pherfformiad yn The Lights yn Lincoln Centre Theatre, enwebwyd Johnston ar gyfer Gwobr Desg Ddrama fel yr Actor Cynorthwyol Gorau.

Daeth y sioe â hi i sylw Carsey-Werner, ac wedi sawl clyweliad yn 1996 ar gyfer y gyfres deledu 3rd Rock from the Sun, enillodd rôl Sally Solomon. Bu'n serennu yn y gyfres o 1996 i 2001. Enillodd y rôl ei dwy Wobr Emmy am yr actores Gynorthwyol orau mewn cyfres gomedi.

Anrhydeddau

[golygu | golygu cod]
  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Primetime Emmy i Actores Gefnogol Arbennig mewn Cyfres Gomedi (1997), Gwobr Primetime Emmy i Actores Gefnogol Arbennig mewn Cyfres Gomedi (1999) .

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Triggs, Charlotte (Ionawr 19, 2009). "Bride Wars' Kristen Johnston: 'I Was Way Too Thin'". People. =71. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-05-13. Cyrchwyd 2019-07-17.
  2. 2.0 2.1 "Kristen Johnston: Biography". TVGuide.com. Cyrchwyd 2013-12-19.
  3. Dyddiad geni: "Kristen Johnston". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  4. Fehring, Jefferson J. Aikin and Thomas H. (2017-10-16). Historic Whitefish Bay: A Celebration of Architecture and Character (yn Saesneg). Arcadia Publishing. ISBN 9781467137591.
  5. Collins, Clark (10 Mawrth 2012). "Kristen Johnston talks about her drug addiction, her life-threatening illness, her recovery, and her new memoir, 'Guts'". Entertainment Weekly. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-01-03. Cyrchwyd 2013-12-27.
  6. Johnston, Kristen (19 Gorffennaf 2013). "Turning Addiction Into a Sideshow". New York Times. Cyrchwyd 2014-02-13.