Neidio i'r cynnwys

Kniefall von Warschau

Oddi ar Wicipedia
Kniefall von Warschau
Enghraifft o:digwyddiad Edit this on Wikidata
Dyddiad7 Rhagfyr 1970 Edit this on Wikidata
LleoliadMonument to the Ghetto Heroes Edit this on Wikidata
Map
Hyd30 eiliad Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/073s0c edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Plac yn Warsaw i gofio arwydd Brandt.

Arwydd o ostyngeiddrwydd a phenyd gan Willy Brandt, Canghellor Gorllewin yr Almaen, i ddioddefwyr Gwrthryfel Geto Warsaw oedd Kniefall von Warschau (Almaeneg am "Penliniad Warsaw"). Digwyddodd ar 7 Rhagfyr 1970 yn ystod taith gan Brandt i arwyddo Cytundeb Warsaw. Ar ôl y seremoni arwyddo, aeth Brandt i fedd y Milwr Dienw i osod plethdorch, ac yna i gofeb Gwrthryfel y Geto. Ar ôl gosod plethdorch o flaen y gofeb, penliniodd Brandt yn annisgwyl gan aros yn dawel ac yn llonydd am gyfnod. Cafodd delweddau o'r digwyddiad eu dangos ar draws y byd. Ar y pryd bu cryn beirniadaeth yng Ngorllewin yr Almaen gan haeru fod yr ystum yn ormod, ond yn ddiweddarach ystyriwyd y digwyddiad yn foment bwysig ym mhroses cymod rhwng yr Almaen a Gwlad Pwyl.

Yn ei hunangofiant, ysgrifennodd Brandt:

Ni gynlluniais ddim, ond gadewais Gastell Wilanow, lle'r oeddwn yn aros, â theimlad bod angen imi fynegi arwyddocâd eithriadol cofeb y geto. O waelod affwys hanes yr Almaen, o dan faich miliynau a lofruddwyd, fe wnes i'r hyn mae bodau dynol yn ei wneud pan fo iaith yn pallu.[1]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Brandt (1989/1992), t. 200.

Ffynhonnell

[golygu | golygu cod]
  • Brandt, W. My Life in Politics (Penguin: 1989/1992). Cyfieithwyd gan Anthea Bell.

Dolen allanol

[golygu | golygu cod]