Klemens Wenzel von Metternich

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Klemens Wenzel von Metternich
Metternich by Lawrence.jpeg
Ganwyd 15 Mai 1773 Edit this on Wikidata
Koblenz Edit this on Wikidata
Bu farw 11 Mehefin 1860 Edit this on Wikidata (87 oed)
Fienna Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Strasbwrg
  • Prifysgol Strasbourg
Galwedigaeth diplomydd, gwleidydd Edit this on Wikidata
Swydd list of Ministers-President of Austria, llysgennad Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Austrian Federal Government
Partner Catherine Bagration Edit this on Wikidata
Plant Richard von Metternich, Melanie Metternich-Zichy, Marie-Clementine Bagration Edit this on Wikidata
Llinach House of Metternich Edit this on Wikidata
Gwobr/au Marchog yn Urdd yr Ysbryd Glan, Marchog yn Urdd Sant Mihangel, Marchog Urdd y Cnu Aur, Urdd yr Eryr Du, Urdd Teilyngdod am Wyddoniaeth a Chelf, Urdd Sant Anna, Dosbarth 1af, Urdd Alexander Nevsky, Urdd Sant Andrew, Urdd yr Eryr Coch, radd 1af, Knight Grand Cross of the Order of Saint Stephen of Hungary Edit this on Wikidata

Gwladweinydd Awstriaidd a aned yn yr Almaen oedd y Tywysog Klemens Wenzel von Metternich (enw llawn yn yr Almaeneg: Klemens Wenzel Nepomuk Lothar, Fürst von Metternich-Winneburg zu Beilstein; 15 Mai 177311 Mehefin 1859) oedd yn un o ddiplomyddion pwysicaf ei oes. Gwasanaethodd fel Gweinidog Tramor yr Ymerodraeth Lân Rufeinig a'i gwladwriaeth olynol, Ymerodraeth Awstria, o 1809 hyd iddo orfod ymddiswyddo ynghylch chwydroadau 1848. Un o'i dasgau cyntaf oedd i bennu détente â Ffrainc oedd yn cynnwys priodas Napoleon a'r Arch-dduges Awstriaidd Marie Louise. Yn fuan wedi hynny, ef oedd y gweinidog tramor a ddaeth ag Awstria i mewn i Ryfel y Chweched Glymblaid ar ochr y Cynghreiriaid, arwyddodd Cytundeb Fontainebleu gan alltudio Napoleon, ac arweiniodd cynrychiolwyr Awstria yng Nghynhadledd Fienna. I gydnabod ei wasanaeth dros Ymerodraeth Awstria cafodd ei ddyrchafu'n Dywysog yn Hydref 1813. O dan ei arweiniad, parhaodd "system Metternich" o gynadleddau rhyngwladol am ddegawd arall wrth i Awstria ymochri â Rwsia, ac i raddau llai Prwsia.