Kitab al-Aghani
Gwedd
![]() | |
| Enghraifft o: | gwaith ysgrifenedig |
|---|---|
| Awdur | Abu al-Faraj al-Isfahani |
| Iaith | Arabeg |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0ckb59 |

Blodeugerdd o gerddi Arabeg gan yr awdur ac ysgolhaig Iranaidd Abu al-Faraj al-Isfahani (897-967) yw Kitab al-Aghani (Arabeg: كتاب الأغاني, 'Llyfr y Caneuon').
Mae'n cynnwys detholiad o gerddi a chaneuon o'r cyfnodau cynharaf yn hanes llenyddiaeth Arabeg (hyd at y 9g), ynghyd â brasluniau o fywyd yr awduron a straeon amdanynt. Gosodwyd y cerddi ar alawon, ond yn anffodus nid yw'n bosibl darllen y nodiant bellach.
Oherwydd y manylion hanesyddol a geir ynddo, mae'r Kitab yn ffynhonnell hanesyddol bwysig. Mae'n cynnwys llawer o wybodaeth am ffordd o fyw ac arferion yr Arabiaid cynnar, ac mae'n un o'n ffynonellau pwysicaf am y cyfnod cyn-Islamaidd a blynyddoedd cynnar Islam.
