Kim Leadbeater
| Kim Leadbeater | |
|---|---|
| Ganwyd | 1 Mai 1976 Heckmondwike, Dewsbury |
| Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | personal trainer, gwleidydd |
| Swydd | Aelod o 58ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 59ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod Seneddol, y Deyrnas Unedig |
| Cyflogwr | |
| Plaid Wleidyddol | y Blaid Lafur |
| Gwobr/au | MBE |
Mae Kim Michele Leadbeater MBE (ganwyd 1976) yn wleidydd Llafur a'r Blaid Gydweithredol sydd wedi bod yn Aelod Seneddol (AS) Batley a Spen, Lloegr, ers mis Gorffennaf 2021.[1][2]
Ganwyd Leadbeater ym 1976 yn Heckmondwike, Gorllewin Swydd Efrog, Lloegr,[3] yn ferch i Jean a Gordon Leadbeater. Ei chwaer hynaf oedd Jo Cox, a oedd yn AS dros Batley a Spen rhwng 2015 a 2016. Mynychodd Ysgol Ramadeg Heckmondwike, ac mae wedi byw yn "bob mymryn bach" o'r ardal leol.[4] Aeth ymlaen i raddio gyda gradd Baglor Gwyddoniaeth (BSc) mewn ymarfer corff a ffitrwydd iechyd o Brifysgol Leeds Beckett yn 2005 a Thystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg (PGCE) o Brifysgol Huddersfield yn 2008.[5]
Cyn symud i wleidyddiaeth, roedd Leadbeater yn ddarlithydd mewn iechyd corfforol yng Ngholeg Bradford, ac mae wedi gweithio fel hyfforddwr personol.[6]
Llofruddiwyd Jo Cox yn 2016 a daeth Tracy Brabin yn AS Batley and Spen. Ar ôl ymddiswyddiad Brabin i dod yn Maer, daeth Leadbeater yn ymgeisydd Llafur ar gyfer Batley.[7] Fe’i hetholwyd yn Aelod Seneddol (AS) dros Batley a Spen ar 1 Gorffennaf 2021, gyda mwyafrif o 323 o bleidleisiau.[8]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Batley and Spen: Labour narrowly hold seat in by-election". BBC News. 2 Gorffennaf 2021. Cyrchwyd 2 Gorffennaf 2021.
- ↑ Pidd, Helen (23 Mai 2021). "Jo Cox's sister selected as Labour candidate for Batley and Spen byelection". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 2 Gorffennaf 2021.
- ↑ "Kim Leadbeater: Sister of Jo Cox is new Batley and Spen MP". BBC News. 2 Gorffennaf 2021. Cyrchwyd 2 Gorffennaf 2021.
- ↑ Hyde, Nathan (17 Mehefin 2021). "All you need to know about Batley and Spen by election candidate Kim Leadbeater". Yorkshire Post (yn Saesneg). Cyrchwyd 1 Gorffennaf 2021.
- ↑ "New Year Honours for Leeds Beckett Graduates". www.leedsbeckett.ac.uk (yn Saesneg). Leeds Beckett University. 31 Rhagfyr 2020. Cyrchwyd 2 Gorffennaf 2021.
- ↑ Adams, Tim (17 Mehefin 2018). "Kim Leadbeater on her sister, Jo Cox: 'You can't give in to hatred'". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 2 Gorffennaf 2021.
- ↑ Rodgers, Sienna. "Jo Cox's sister Kim Leadbeater selected by Labour to contest Batley and Spen". LabourList (yn Saesneg). Cyrchwyd 2 Gorffennaf 2021.
- ↑ Wolfe-Robinson, Maya; Stewart, Heather (2 Gorffennaf 2021). "Labour's Kim Leadbeater wins narrow victory in Batley and Spen byelection". The Guardian (yn Saesneg). OCLC 60623878. Cyrchwyd 2 Gorffennaf 2021.
| Senedd y Deyrnas Unedig | ||
|---|---|---|
| Rhagflaenydd: Tracy Brabin |
Aelod Seneddol dros Batley a Spen 2015–2016 |
Olynydd: 'presennol' |