Kickstarter

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Kickstarter, Inc.
Kickstarter logo 2019.svg
Pencadlys Efrog Newydd, U.D.A
Sefydlydd(wyr) Perry Chen, Yancey Strickler a Charles Adler
Gwefan kickstarter.com
Safle Alecsa 824 (May 2014)[1]
Math o wefan Ariannu torfol
Lansiwyd 28 Ebrill 2009

Llwyfan ariannu torfol ydy Kickstarter.[2] Nod y cwmni yw rhoi hwb i brosiectau creadigol.[3] Dywed Kickstarter eu bod wedi derbyn dros $1 biliwn mewn addewidion ariannol a hynny gan 5.7 miliwn o fuddsoddwyr ar gyfer 135,000 o brosiectau cerdd, ffilm, sioeau llwyfan, comics, newyddiadaeth, gemau fideo a phrosiectau yn ymwneud â bwyd.[4]

Mae'r 'buddsoddwyr' yn eu tro'n derbyn gwobrau am gefnogi'r mentrau.[5] Gellir olrhain y cysyniad gwreiddiol sydd y tu ôl i'r noddi celfyddydol hwn i fodel lle mae noddwyr yn tanysgrifio'n uniongyrchol gyda'r artist neu'r artistiaid er mwyn eu cefnogi'n ariannol.[6]

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Sefydlwyd Kickstarter ar 28 Ebrill 2009 gan Perry Chen, Yancey Strickler, a Charles Adler.[7] Galwodd Time y gwasanaeth "y dyfeisiad gorau yn 2010"[8] a'r "Wefan orau yn 2011".[9] Ymhlith y cefnogwyr mae Union Square Ventures ac "angylion" fel Jack Dorsey, Zach Klein a Caterina Fake.[10] Yn Greenpoint, Brooklyn mae pencadlys y cwmni.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Kickstarter.com Site Info". Alexa Internet. Cyrchwyd 29 Mai 2014.
  2. "Kickstarter crowdfunding site officially launches in Canada". The Canadian Press. 10 Medi 2013. Cyrchwyd 14 Hydref 2013. Italic or bold markup not allowed in: |newspaper= (help)
  3. Gannes, Liz (Mai 29, 2010). "Kickstarter: We Don't Have Anything Against Celebrity Projects". All Things D.
  4. "OMG". Kickstarter. Cyrchwyd Mawrth 2014. Check date values in: |accessdate= (help)
  5. Walker, Rob (5 Awst 2011). "The Trivialities and Transcendence of Kickstarter". The New York Times Magazine.
  6. Garber, Megan (29 Mehefin 2013). "Kickstarters of Yore: Mozart, Lady Liberty, Alexander Pope". The Atlantic.
  7. Wauters, Robin (April 29, 2009). "Kickstarter Launches Another Social Fundraising Platform".
  8. Snyder, Steven James (11 Tachwedd 2010). "The 50 Best Inventions of 2010". TIME. Cyrchwyd 20 Mehefin 2012.
  9. McCracken, Harry (16 Awst 2011). "The 50 Best Websites of 2011". TIME. Cyrchwyd 20 Mehefin 2012.
  10. Kafka, Peter. "Kickstarter Fesses Up: The Crowdsourced Funding Start-Up Has Funding, Too". All Things D. Dow Jones & Company Inc. Cyrchwyd 7 Chwefror 2012.