K.F. Feronikeli

Oddi ar Wicipedia
Feronikeli
Enw llawnKlubi Futbollistik Feronikeli
LlysenwauTigrat e Zi (Y Teigrod Du)
Sefydlwyd8 Ebrill 1974; 50 o flynyddoedd yn ôl (1974-04-08) as Nikeli
MaesStadiwm Rexhep Rexhepi
(sy'n dal: 6,000)
PresidentRamaj, NaserNaser Ramaj
ManagerRamadani, ZekirijaZekirija Ramadani
CynghrairSuperliga e Futbollit të Kosovës
2018–19Football Superleague of Kosovo, 1af
Lliwiau Cartref
Lliwiau Oddi cartref

Mae KF Feronikeli (Albaneg: Klubi Futbollistik Feronikeli), a elwir fel rheol yn Feronikeli yn glwb pêl-droed proffesiynol yn nhref Drenas (Serbeg: Glogovac neu Gllogovc), o rhyw 6,000 o bobl o fewn dros 50,000 yn y fwrdeistref o'r un enw,[1] sydd yng nghanol Cosofo heb fod yn bell o'r brifddinas, Prishtina. Mae'r clwb yn chwarae yn y Superliga, sef yr haen uchaf o bêl-droed yn y wlad.

Hanes[golygu | golygu cod]

Sefydlwyd y clwb yn 1974 o dan yr enw, Nikeli. Yn ystod gwanwyn a haf 1974, cynhaliwyd gweithgaredd dwys ym mhob agwedd ar ffurfio'r clwb pêl-droed, ei gofrestru a'i gynnwys yn y Gynghrair Bêl-droed Rhyngdrefol, a elwir y byd hwnnw'n Gynghrair Dosbarth Pristina. Prif ysgogydd hyn oedd yr athro Addysg Gorfforol, Hashim Mala.[2]

Ar 8 Ebrill 1974, cynhaliwyd Cynulliad Sefydlu'r Clwb Pêl-droed yn Neuadd Gynulliad Bwrdeistrefol Glogovac. Yn y cyfarfod hwn y sefydlwyd y clwb, a enwyd yn Nikeli gyda phencadlys yn Glogovac. Yna, etholwyd prifathrawiaeth y clwb, y llywyddiaeth 11 aelod fel llywydd Tahir Ajazi, is-lywydd Murtes Zogu, ysgrifennydd Jusuf Dobra, trysorydd Habib Kukiqi ac aelodau bwrdd fel Fetah Elshani, Ismail Bajraktari, Mehdi Bardhi, Nazif Sejda, Rade Jevremović, Remzi Heta a Sylejman Kastrati. Dewisodd y cynulliad hwn ar gyfer technegydd clybiau Mehdi Bardhi, tra bod yr hyfforddwr Hashim Mala.[2]

Yn hanesyddol, bu cysylltiad agos rhwng y clwb a NewCo Feronikeli, y cwmni mwyngloddio mwynau metelegol a'r cyfadeilad mwyn metelau gerllaw, ers i'r safle gael ei hadeiladu yn 1984.[3] Yn nhymor 2014–15 coronwyd y clwb yn bencampwyr am y tro cyntaf yn hanes y clwb.[4] Fe enillon nhw bencampwriaeth 2018–19 hefyd, gan gymhwyso ar gyfer rowndiau rhagarweiniol Cynghrair y Pencampwyr UEFA am y tro cyntaf yn eu hanes.

Hanes ar y Cae[golygu | golygu cod]

Enillodd KF Feronikeli y Liga e Parë yn 2012 gan esgyn i'r lefel uchaf, y Raiffeisen Superliga. Yn 2014, enillodd y clwb y Kupa e Kosovës (Cwpan Cosofo) a'r Kupa e Pavarsisë ("Cwpan Annibyniaeth", sef twrnamaint gyfeillgar yn erbyn y tîm o Albania, Vlorë a drefnwyd ar y cyd rhwng Ffederasiwn Pêl-droed Cosofo a Ffederasiwn Pêl-droed Albania - cofier mai Albaniaid yw mwyafrif helaeth pobl Cosofo.

Yn 2015 enillodd y clwb bencampwriaeth Cosofo, y Cwpan a'r Supercup. Hefyd yn 2016, daeth KF Feronikeli yn bencampwr cenedlaethol ac oherwydd derbyniwyd Kosovo i UEFA ym mis Mai 2016, gallai'r clwb gymryd rhan yng ngwres gyntaf Cynghrair Pencampwyr UEFA 2016/17. Fodd bynnag, fel pob clwb Kosovar, nid oedd Feronikeli wedi'i drwyddedu i gymryd rhan. Cymerodd y clwb ran mewn cystadleuaeth UEFA ryngwladol yn swyddogol ar 28 Mehefin 2019 gyda gêm yn erbyn Lincoln Red Imps o Gibraltar mewn gêm rownd rhagbrofol o'r Cynghrair y Pencampwyr UEFA.

Stadiwm[golygu | golygu cod]

Mae'r clwb wedi chwarae ei gemau cartref yn Stadiwm Rexhep Rexhepi (Albaneg: Stadiumi Rexhep Rexhepi) sy'n stadiwm amlbwrpas yn Glogovac. Mae gan y stadiwm gapasiti o 6,000 o bobl i gyd yn seddau ac fe'i enwyd ar ôl cyn chwaraewr a chapten Rexhep Rexhepi, a fu'n ymladd dros Byddin Rhyddid Cosofo (UÇK) ac a laddwyd ar 12 Chwefror 1999 gan luoedd Serb yn ystod Rhyfel Kosovo.[5]

Cefnogwyr[golygu | golygu cod]

Gelwyr y cefnogwyr yn Tigrat e Zi ("Teigrod Du") a sefydlwyd yn 2014. Maent yn sefyll yn eisteddle orllewinnol y stadiwm.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

2015, 2016, 2019
2014, 2015
  • 'Superkupa e Kosovës
2015
  • Kupa e Pavarsisë (Cwpan Annibyniaeth)
2014

Feronikeli yn Ewrope[golygu | golygu cod]

Cystadlodd Feronikeli yn Cynghrair y Pencampwyr UEFA am y tro cyntaf fel rhan o dymor 2019-20 y Gynghrair. Maent yn chwarae yn y rown rhag-brofol yn erbyn Lincoln Red Imps.[6][7] Ar 25 Mehefin 2019, yn eu gêm Ewropeaidd gyntaf, curodd Feronikeli y Lincoln Red Imps yn Sadiwm Fadil Vokrri ym mhrifddinas Cosofo, Pristina.[8]

Tymor Twrnament Rownd Gwrthwynebwyr Cartref Oddi Cartref Agg.
2019–20 Cynghrair y Pencampwyr UEFA PR Gibraltar Lincoln Red Imps 1–0
Andorra FC Santa Coloma N/A

Dolenni[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Nodyn:Lien web
  2. 2.0 2.1 "Rreth klubit" [About the club] (yn Albanian). KF Feronikeli. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-07-06. Cyrchwyd 2019-06-28.CS1 maint: unrecognized language (link)
  3. "NewCo Feronikeli nderohet me medalje dhe mirënjohje nga KF Feronikeli" [NewCo Feronikeli honored with medals and gratitude by KF Feronikeli] (yn Albanian). Kosova Press. 17 June 2014.CS1 maint: unrecognized language (link)
  4. "Feronikeli për herë të parë kampion (VIDEO)" [Feronikeli for the first time champion (VIDEO)] (yn Albanian). Klan Kosova. 7 June 2015.CS1 maint: unrecognized language (link)
  5. "Feronikeli përkujtoi Rexhepin" [Feronikeli reminded Rexhepi]. Arkiva Mediatike Shqiptare (yn Albanian). 13 February 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-07-02. Cyrchwyd 2019-06-28.CS1 maint: unrecognized language (link)
  6. "Zyrtare: Lincoln Red Imps, kundërshtari i Feronikelit për Champions" [Official: Lincoln Red Imps, Feronikeli's opponent for the Champions] (yn Albanian). KF Feronikeli. 11 June 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-06-24. Cyrchwyd 2019-06-28.CS1 maint: unrecognized language (link)
  7. "Feronikeli mëson kundërshtarin për fazën parakualifikuese në Ligën e Kampionëve" [Feronikeli teaches the opponent for the pre-qualification stage in the Champions League] (yn Albanian). Telegrafi. 11 June 2019. Feronikeli në parakualifikimet e Ligës së Kampionëve do të ketë punë me Lincoln Red Imps nga GjibraltariCS1 maint: unrecognized language (link)
  8. "Feronikeli fiton ndaj Lincolnit dhe bën një hap të madh në raundin parakualifikues në LK" [Feronikeli wins against Lincoln and makes a big leap in the pre-qualifying round at CL] (yn Albanian). Telegrafi. 25 June 2019.CS1 maint: unrecognized language (link)