Kālidāsa

Oddi ar Wicipedia
Kālidāsa
GanwydUnknown Edit this on Wikidata
Unknown Edit this on Wikidata
Bu farwUnknown Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, awdur geiriau, dramodydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Blodeuoddc. 4 g Edit this on Wikidata
Adnabyddus amRaghuvaṃśa, Abhijñānaśākuntalam, Mālavikāgnimitram, Vikramōrvaśīyam, Kumārasaṃbhava, Meghadūta, Ṛtusaṃhāra Edit this on Wikidata
Arddullarwrgerdd, telyneg, drama fiction, Sanskrit drama Edit this on Wikidata
Golygfa o'r Abhijñānaśākuntalam; Shakuntala yn troi'n ôl i edrych ar Dushyanta. Darlun gan Ravi Raj Varma.

Bardd a dramodydd yn yr iaith Sansgrit oedd Kālidāsa (Devanāgarī: कालिदास, "gwas Kali"). Ystyrir mai ef yw ffigwr pwysicaf mewn llenyddiaeth Sansgrir glasurol.

Nid oes sicrwydd pryd nag ymhle roedd yn byw; credir ei fod yn byw yng ngyfnod Gupta, efallai rywbryd yn y 4edd neu'r 5g OC. Ceir cyfeiriad ato gan yr Aihole Prashasti yn 634, felly ni all fod yn ddiweddarach na hyn. Cred rhai ysgolheigion ar sail cyfeiriadau yn ei weithiau ei fod yn byw un ai ger yr Himalaya neu ger Ujjain.

Gweithiau llenyddol[golygu | golygu cod]

Dramâu[golygu | golygu cod]

  • Mālavikāgnimitra ("Mālavikā ac Agnimitra"), yn adrodd stori'r brenin Agnimitra, sy'n syrthio mewn cariad a morwyn wedi ei halltudio o'r enw Mālavikā.
  • Abhijñānaśākuntalam ("Adnabod Shakuntala"), yn adrodd stori'r brenin Dushyanta, sy'n cyfarfod Shakuntalā tra allan yn hela ac yn ei phriodi. Mae gŵr doeth yn rhoi melltith ar Shakuntala, sef y bydd Dushyanta yn ei hanghofio'n llwyr nes iddo weld y fodrwy a adawodd ef gyda hi. Cyll Shakuntala y fodrwy, ac nid yw Dushyanta yn ei hadnabod nes i bysgotwr gael hyd i'r fodrwy.
  • Vikramōrvaśīya ("Ynghylch Vikrama ac Urvashi"), hanes y brenin Pururavas a'r dduwies Urvashi, sy'n sythio mewn cariad.

Barddoniaeth[golygu | golygu cod]

Kālidāsa yw awdur dwy gerdd epig, y Raghuvamsa ("Brenhinllin Raghu") a Kumārasambhava ("Genedigaeth Kumāra"). Mae ei farddoniaeth delynegol yn cynnwys Meghadūta ("Negesydd y Cymylau") a Ṛtusamhāra ("Disgrifiad o'r Tymhorau").