Juno (mytholeg)

Oddi ar Wicipedia
Juno
Enghraifft o'r canlynolduwdod Rhufeinig, duwies Edit this on Wikidata
Rhan oCapitoline Triad Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cerflun Rhufeinig o Juno

Duwies o'r Rhufain hynafol sy'n cyfateb yn fras i'r dduwies Hera, gwraig Zeus (Iau) ym mytholeg Roeg yw Juno (Lladin: Iuno). Fel Iovino, roedd hi'n wraig i Iovis (Iau) yn y pantheon Rhufeinig. Duwies y Nefoedd (Iuno Regina) a'r Goleuni Nefol oedd hi.[1]

Mae llawer o'i hanes fel gwraig Iau yn deillio o fytholeg Roeg, ond cyn iddi gael ei huniaethu â Hera roedd hi'n dduwies Eidalaidd frodorol, yn Frenhines y Merched a chreaduriaid benywaidd, yn gymaint felly fel roedd pob merch yn ei haddoli fel nawdd-dduwies bersonol ac yn tyngu llwon wrth ei henw. Ei ffurf fwyaf cyffredin a mwyaf hynafol efallai yn yr Eidal oedd Iuno Lucina ('Rhoddwr Goleuni' / 'Hi sy'n dod â'r Goleuni'). Yn yr agwedd yma, hi oedd duwies dechrau pob mis. Fel duwies y Goleuni roedd hi'n dduwies genedigaeth hefyd gyda theml hynafol mewn llwyn sanctaidd yn Rhufain ei hun ac roedd hi'n chwarae rhan bwysig mewn dathliadau priodas.[2]

Ei gŵyl fawr oedd y Matronalia, yr enwocaf o wyliau'r duwiau a duwiesau yn y Rhufain hynafol, a ddethlid ar y 1af o Fawrth.[2]

Roedd hi'n cael ei haddoli fel Iuno Sospita ('Yr Iachawdwres') hefyd, am ei bod yn amddiffyn a gwarchod pawb. Roedd y Sabiniaid yn ei haddoli mewn agwedd fwy rhyfelgar, sef Iuno Curitis.[2]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

  • 3 Juno, asteroid a enwir ar ôl y dduwies

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Oskar Seyffert, A Dictionary of Classical Antiquities (Llundain, 1902; sawl argraffiad ar ôl hynny).
  2. 2.0 2.1 2.2 Oskar Seyffert, A Dictionary of Classical Antiquities.