Juliette Binoche

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Juliette Binoche, 2012

Mae Juliette Binoche (yn Ffrangeg ynganer fel [ʒylijɛt biˈnɔʃ]; ganed 9 Mawrth 1964) yn actores mewn ffilmiau sydd wedi ennill Gwobr yr Academi. Daw o Baris, Ffrainc.

Mae Binoche yn enwog am ei rôl mewn ffilmiau poblogaidd sydd wedi derbyn gwobrau megis The Unbearable Lightness of Being, The English Patient (1996) a Chocolat (2000). Cafodd lwyddiant rhyngwladol hefyd mewn ffilmiau celfyddydol megis Trois Couleurs: Bleu (1993) a Caché (2005). Ym 1997 enillodd Wobr yr Academi am yr actores gefnogol orau yn The English Patient, yr actores Ffrengig gyntaf i ennill Oscar.

Baner FfraincEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Ffrancwr neu Ffrances. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.