Neidio i'r cynnwys

Juliette Adam

Oddi ar Wicipedia
Juliette Adam
FfugenwJuliette Lamber, Madame Adam, Mme La Messine, Comte Paul Vassili, J. La Messine Edit this on Wikidata
GanwydJuliette Lambert Edit this on Wikidata
4 Hydref 1836 Edit this on Wikidata
Verberie Edit this on Wikidata
Bu farw23 Awst 1936 Edit this on Wikidata
Callian Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Ffrainc Ffrainc
Galwedigaethysgrifennwr, perchennog salon, nofelydd, bywgraffydd, awdur ysgrifau, bardd, golygydd Edit this on Wikidata
PriodEdmond Adam, Alexis La Messine Edit this on Wikidata
Gwobr/auPrix Auguste-Furtado, Prix Jules-Favre, Prix d'Académie Edit this on Wikidata
llofnod

Awdures a ffeminist o Ffrainc oedd Juliette Adam née Lambert (ynganiad Ffrengig: [ʒyljɛt adɑ̃]; 4 Hydref 1836 - 23 Awst 1936) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel nofelydd, bywgraffydd, awdur ysgrifau a bardd. Ei nofel fwyaf boblogaidd yw Païenne (1883)

Fe'i ganed yn Verberie, Oise, gogledd Ffrainc a bu farw yn Callian a'i chladdu ym Mynwent Père Lachaise, Paris. Bu'n briod i Edmond Adam ac yna i Alexis La Messine.[1][2][3][4][5][6]

Magwraeth a phriodas

[golygu | golygu cod]

Cofnododd ei phlentyndod, anhapus yn Le roman de mon enfance et de ma jeunesse (Cym. Trans, Llundain ac Efrog Newydd, 1902) lle soniodd fod ei rhieni'n ffraeo drwy'r amser.[7] Ond yn Paradoxes d'un docteur allemand (cyhoeddwyd yn 1860), mae'n nodi ei fod yn credu mewn hawliau merched. [8]

Yn 1852, priododd â meddyg o'r enw La Messina, a chyhoeddodd ym 1858 ei Idées antiproudhoniennes sur l'amour, la femme et le mariage (Syniadau Antiproudhonian ar Gariad, Menyw a Phriodas), yn amddiffyn Daniel Stern (llysenw Marie d'Agoult) a George Sand.[7] Ar ôl marwolaeth ei gŵr cyntaf yn 1867, priododd Juliette ag Antoine Edmond Adam (1816-1877), swyddog uchel yn yr heddlu yn 1870, a ddaeth yn seneddwr yn ddiweddarach.

Juliette Adam yn 1904

Llenyddiaeth

[golygu | golygu cod]

Sefydlodd y Nouvelle Revue yn 1879, a olygodd am wyth mlynedd, ac a reolai tan 1899. Cyhoeddodd ysgrifau gan Paul Bourget, Pierre Loti, a Guy de Maupassant yn ogystal â nofel Octave Mirbeau, Le Calvaire.

Galwodd am hawl menywod i fod yn dystion mewn gweithredoedd cyhoeddus a phreifat, ac am yr hawl i fenywod priod i gymryd cynnyrch eu llafur a chael gwared arno fel y mynnent.[9]

Daeth yn gyfaill agos i Yuliana Glinka, a oedd yn ymwneud â theosophi a'r ocwlt.

Llyfryddiaeth ddethol

[golygu | golygu cod]
  • Idées antiproudhoniennes sur l’amour, la femme et le mariage, 1858
  • Les provinciaux à Paris, yn Paris Guide 1868; cyfieithiad Saesneg: Paris for Outsiders 2016
  • Laide, 1878
  • Grecque, 1879
  • Païenne, 1883
  • Mes angoisses et nos luttes, Paris, A. Lemerre, 1907
  • L'Angleterre en Egypte, Paris, 1922

Aelodaeth

[golygu | golygu cod]

Bu'n aelod o Ligue de la Patrie Française‏ am rai blynyddoedd.

Anrhydeddau

[golygu | golygu cod]
  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Prix Auguste-Furtado (1920), Prix Jules-Favre (1917), Prix d'Académie (1927) .


Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. Nouveau Dictionnaire des auteurs de tous les temps et de tous les pays. tudalen: 12. cyfrol: 1. https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/.
  2. Disgrifiwyd yn: https://www.bartleby.com/library/bios/index10.html.
  3. Rhyw: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. Nouveau Dictionnaire des auteurs de tous les temps et de tous les pays. tudalen: 12. cyfrol: 1. https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/. Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 12 Gorffennaf 2024.
  4. Dyddiad geni: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. Nouveau Dictionnaire des auteurs de tous les temps et de tous les pays. tudalen: 12. cyfrol: 1. "Juliette Adam". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Juliette Adam". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Juliette Adam". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Juliette Lamber".
  5. Dyddiad marw: Nouveau Dictionnaire des auteurs de tous les temps et de tous les pays. tudalen: 12. cyfrol: 1. "Juliette Adam". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  6. Man geni: Nouveau Dictionnaire des auteurs de tous les temps et de tous les pays. tudalen: 12. cyfrol: 1.
  7. 7.0 7.1 Chisholm 1911.
  8. Galwedigaeth: Nouveau Dictionnaire des auteurs de tous les temps et de tous les pays. tudalen: 12. cyfrol: 1. https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/.
  9. Metz, Annie (Rhagfyr 2007). "Jeanne Schmahl et la loi sur le libre salaire de la femme". Bulletin du Archives du Féminisme (13). http://www.archivesdufeminisme.fr/ressources-en-ligne/articles-et-comptes-rendus/articles-historiques/metz-jeanne-schmahl-loi-libre-salaire-femme/. Adalwyd 2015-03-22.