Julia Louis-Dreyfus
| Julia Louis-Dreyfus | |
|---|---|
| Ganwyd | Julia Scarlett Elizabeth Louis-Dreyfus 13 Ionawr 1961 Manhattan |
| Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | cynhyrchydd ffilm, canwr, actor llwyfan, actor ffilm, actor teledu, actor llais |
| Adnabyddus am | Veep, Seinfeld, A Bug's Life, The New Adventures of Old Christine, Watching Ellie |
| Math o lais | soprano |
| Plaid Wleidyddol | plaid Ddemocrataidd |
| Tad | Gérard Louis-Dreyfus |
| Mam | Judith LeFever Bowles |
| Priod | Brad Hall |
| Plant | Charlie Hall |
| Perthnasau | Pierre Louis-Dreyfus, Léopold Louis-Dreyfus, Robert Louis-Dreyfus, Kyril Louis-Dreyfus |
| Llinach | Louis-Dreyfus family |
| Gwobr/au | Gwobr y Golden Globe i'r Actores wrth Gefn Orau - Cyfres, Cyfres bitw neu Ffilm Deledu, Gwobr Mark Twain am Hiwmor Americanaidd, Gwobr Primetime Emmy i'r Prif Actores mewn Cyfres Gomedi, Gwobr Primetime Emmy i'r Prif Actores mewn Cyfres Gomedi, Gwobr Primetime Emmy i'r Prif Actores mewn Cyfres Gomedi, Gwobr Primetime Emmy i'r Prif Actores mewn Cyfres Gomedi, Gwobr Primetime Emmy i'r Prif Actores mewn Cyfres Gomedi, Gwobr Primetime Emmy i'r Prif Actores mewn Cyfres Gomedi, Gwobr Primetime Emmy i'r Prif Actores mewn Cyfres Gomedi, Gwobr Primetime Emmy i Actores Gefnogol Arbennig mewn Cyfres Gomedi, Seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Screen Actors Guild Award for Outstanding Performance by an Ensemble in a Comedy Series, Screen Actors Guild Award for Outstanding Performance by a Female Actor in a Comedy Series, Screen Actors Guild Award for Outstanding Performance by a Female Actor in a Comedy Series, Critics' Choice Television Award for Best Actress in a Comedy Series, TCA Award for Individual Achievement in Comedy |
Mae Julia Scarlett Elizabeth Louis-Dreyfus (ganed 13 Ionawr 1961) yn actores, comedïwraig a chynhyrchwraig o'r Unol Daleithiau. Fe’i hadnabyddir am ei gwaith comedi teledu, gan gynnwys Saturday Night Live (1982–85), Seinfeld (1989–98), The New Adventures of Old Christine (2006–10) a Veep (2012–presennol). Mae Louis-Dreufus wedi ennill nifer o wobrau Emmy ac wedi derbyn nifer o enwebiadau.
Daeth Louis-Dreyfus yn berfformwraig gomedi fel rhan o’r Cwmni Theatr Ymarferol yn Chicago, Illinois, a arweiniodd at ei chastio yn y sioe sgetsys Saturday Night Live o 1982 i 1985. Daeth i amlygrwydd yn 1990 wrth iddi dreulio naw cyfres yn chwarae Elaine Benes ar Seinfeld, un o’r comediau sefyllfa mwyaf llwyddiannus yn feirniadol ac yn fasnachol. Cynhwysa rolau nodedig eraill, Christine Campbell yn The New Adventures of Old Christine, a gafodd rhediad pum cyfres ar CBS, a’i rôl fel Selina Meyer yn Veep, sydd yn ddiweddar wedi cael ei hadnewyddu am seithfed gyfres gan HBO. Cynhwysa rolau ffilm Louis-Dreyfus Hannah and Her Sisters (1986), National Lampoon's Christmas Vacation (1989), Deconstructing Harry (1997) ac Enough Said (2013). Mae wedi lleisio rolau mewn nifer o ffilmiau wedi’u hanimeiddio, gan gynnwys A Bug's Life (1998) a Planes (2013).
Mae Louis-Dreyfus wedi derbyn naw Gwobr Emmy, saith am actio a dau am gynhyrchu, gyda chyfanswm o 23 enwebiad yn ystod ei gyrfa. Mae hefyd wedi derbyn Gwobr Glôb Aur, saith Gwobr Cymdeithas yr Actorion Sgrin, pum Gwobr Gomedi Americanaidd a dwy Wobr Deledu Dewis y Beirniaid. Derbyniwyd Louis-Dreyfus seren ar Rodfa’r Enwogion Hollywood yn 2010 a fe’i rhoddwyd goresgyn i Neuadd Enwogion yr Academi Deledu yn 2014. Yn 2014, enwyd Louis-Dreyfus fel un o’r 100 o bobl fwyaf dylanwadol yn y byd gan Times ar y rhestr flynyddol, Times 100.