Veep
Veep | |
---|---|
![]() Teitl cyfres 1–5 | |
Genre | Dychan gwleidyddol, Comedi |
Crëwyd gan | Armando Iannucci |
Yn serennu | Julia Louis-Dreyfus Anna Chlumsky Tony Hale Reid Scott Timothy Simons Matt Walsh Sufe Bradshaw Kevin Dunn |
Cyfansoddwr/wyr | Rupert Gregson-Williams Christopher Willis |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Iaith wreiddiol | Saesneg |
Nifer o dymhorau | 7 |
Nifer o benodau | 65 |
Cynhyrchiad | |
Cynhyrchydd/wyr gweithredol | Armando Iannucci Christopher Godsick Frank Rich Chris Addison Simon Blackwell Tony Roche Julia Louis-Dreyfus Stephanie Laing David Mandel |
Lleoliad(au) | Baltimore, Maryland (tymor 1–4) Los Angeles, California (tymor 5–presennol) |
Gosodiad camera | Dull 1-camera |
Hyd y rhaglen | 26–30 munud |
Cwmni cynhyrchu | HBO Entertainment Dundee Productions (2012–15) |
Dosbarthwr | Warner Bros. Television Distribution HBO Enterprises |
Rhyddhau | |
Rhwydwaith gwreiddiol | HBO |
Fformat y llun | 1080i (HDTV) |
Darlledwyd yn wreiddiol | Ebrill 22, 2012 | – presennol
Cronoleg | |
Sioeau cysylltiol | The Thick of It In the Loop |
Dolennau allanol | |
Gwefan |
Mae Veep yn gyfres gomedi-wleidyddol, Americanaidd, sy'n serennu Julia Louis-Dreyfus a ymddangosodd gyntaf ar HBO ar 22 Ebrill 2012. Crewyd y gyfres gan Armando Iannucci fel addasiad o'r comedi sefyllfa Brydeinig The Thick of It.[1]
Lleolir y gyfres yn swyddfa Selina Meyer, Is-Arlywydd yr Unol Daleithiau ffuglennol, a ddaw yn ddiweddarach yn Arlywydd. Mae'r gyfres yn dilyn Meyer a'i thîm yn ei hymdrech i wneud ei marc ar wleidyddiaeth (ddychmygol) UDA, heb gael ei baglu gan gyd-wleidyddion cyfrwys a dichellgar.[2]
Derbyniodd Veep ganmoliaeth gan y beirniaid ffilm, ac enillodd sawl gwobr o bwys. Fe'i henwebwyd chwe blynedd o'r bron am Wobr Emmy Primetime am y 'Gyfres Eithriadol o Dda' ac enillodd bedair gwaith (hyd at 2017). Mae hefyd wedi ennill nifer o wobrau Writers Guild of America Award for Television, ac enillodd perfformiad Louis-Dreyfus fel Selina Meyer bum Gwobr Primetime Emmy am yr actores eithriadol o dda a dwy wobr Screen Actors Guild Awards, dwy Wobr Critics' Choice Television Awards, a Gwobr y TCA - Television Critics Association Award, a 5 enwebiad am Wobr y Golden Globe. Enwebwyd Tony Hale 5 gwaith yn olynol am Wobr Emmy (yn chwarae Gary Walsh) gan ennill yn 2013 a 2015.
Cychwynnodd y 6ed gyfres ar 16 Ebrill 2017,[3] a chafwyd addewid o 7fed gyfres yn 2018.[4]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Andreeva, Nellie (January 13, 2012). "UPDATE: Premiere Dates For HBO's 'Girls,' 'Game Of Thrones', 'Veep' & 'Game Change'". Deadline.com. Cyrchwyd 24 Ebrill 2012.
- ↑ "About Veep". HBO. Cyrchwyd 5 Mai 2016.
- ↑ Roots, Kimberly (7 Ebrill 2017). "Veep to Return to HBO in April". TVLine. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-08-08. Cyrchwyd 7 Ebrill 2017.
- ↑ Petski, Denise (25 Mai 2017). "'Veep' & 'Silicon Valley' Renewed By HBO". Deadline. Cyrchwyd 25 Mai 2017.