Jovian

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Delwedd yr ymerawdwr Jovian ar ddarn arian.

Flavius Claudius Iovianus, mwy adnabyddus fel Jovian, (332 - 17 Chwefror 364) oedd ymerawdwr Rhufain rhwng 26 Mehefin 363 a'i farwolaeth.

Ganed Jovian yn Singidunum yn Pannonia, yn fab i un o swyddogion yr ymerawdwr Cystennin II. Ymunodd a'r fyddin a daeth yn gadfridog. Aeth gyda'r ymerawdwr Julian ar ei ymgyrch yn erbyn y Persiaid dan Sapor II. Pan fu farw Julian o glwyf a dderbyniodd mewn ysgarmes yn erbyn y Persiaid, dewisodd y fyddin Jovian fel ymerawdwr.

Gwnaeth Jovian gytundeb heddwch a'r Persiaid, gan gytuno i ildio iddynt y pum talaith Rufeinig i'r dwyrain o Afon Tigris oedd wedi eu concro gan Diocletian yn 298, a chaniatau i'r Persiaid feddiannu caerau Nisibis, Castra Maurorum a Singara. Bu raid i'r Rhufeiniaid gytuno i ildio eu dylanwad yn Armenia hefyd, a bu raid i frenin Armenia, Arshak II, gytuno i beidio cymryd rhan mewn unrhyw anghydfod rhwng Rhufain a Phersia yn y dyfodol, a hefyd ildio rhan o'i deyrnas i Sapor II.

Ystyriai'r Rhufeiniaid y cytundeb yma yn warth, a gwnaeth Jovian yn amhoblogaidd. Wedi cyrraedd Antiochia penderfynodd fynd ymlaen ar ei union i Gaergystennin i geisio cryfhau ei safle. Yn wahanol i Julian, oedd wedi ceisio hyrwyddo paganiaeth, yr oedd Jovian yn Gristion, a sicrhaodd fod deddfau Julian yn erbyn yr eglwys yn cael ei diddymu a bod Athanasius yn cael dychwelyd i'w esgobaeth.

Bu farw Jovian ar 17 Chwefror 364 ar ôl teyrnasiad o ddim ond 8 mis. Cafwyd ef yn farw yn ei wely yn ei babell yn Dadastana, hanner ffordd rhwng Ancira a Nicea. Nid oes sicrwydd am achos ei farwolaeth.

O'i flaen :
Julian
Ymerodron Rhufain
Jovian
Olynydd :
Valentinian I a Valens