Jonsi

Oddi ar Wicipedia
Jonsi
Enghraifft o'r canlynolrhaglen radio Edit this on Wikidata
Iaith wreiddiolCymraeg Edit this on Wikidata


Am y cerddor o Wlad yr Iâ, gweler Jónsi.

Rhaglen radio oedd Jonsi a ddarlledwyd ar BBC Radio Cymru rhwng 2.00 a 5.00 y prynhawn, Llun i Gwener. Hyd at Hydref 2008 fe'i ddarlledwyd rhwng 8.30 a 10.30 y bore, Llun i Gwener. Enwyd y rhaglen ar ôl y cyflwynydd, Eifion Jones.

Jonsi yn gadael Radio Cymru[golygu | golygu cod]

Ar 21 Hydref, 2010 cyhoeddwyd fod Eifion Jones wedi gadael ei swydd gyda'r BBC a bod Geraint Lloyd yn cymryd ei le. Fodd bynnag, ni roddwyd esboniad pam ei fod yn gadael a gwrthododd y BBC gadarnhau neu wadu fod ei ymadawiad yn ymwneud â chwyn a wnaed yn ei erbyn.[1] Ar 22 Hydref, 2010 cyhoeddodd Golwg 360 mai cydweithwraig fenywaidd a wnaeth gwyn am sylw rhywiol a wnaeth Jones iddi. Dywedwyd ei fod wedi ei wahardd o'i waith am bythefnos tra bod Wendy Rees, y pennaeth ym Mangor yn ymchwilio i'r mater.[2] Serch hynny, mae Jones yn gwadu'r honiad yn llwyr.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Jonsi wedi gadael Radio Cymru", BBC Newyddion. 21-10-2010. Adalwyd ar 22-10-2010
  2. "Jonsi wedi gorfod mynd oherwydd cwyn"[dolen marw], Golwg 360. 22-10-2010. Adalwyd ar 22-10-2010

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am radio. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato