Jonathan Steinberg
Jonathan Steinberg | |
---|---|
Ganwyd | 8 Mawrth 1934 ![]() Dinas Efrog Newydd ![]() |
Bu farw | 4 Mawrth 2021 ![]() Caergrawnt ![]() |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | hanesydd, academydd ![]() |
Cyflogwr | |
Tad | Milton Steinberg ![]() |
Priod | Marion Kant ![]() |
Plant | Peter Steinberg ![]() |
Hanesydd Americanaidd oedd Jonathan Steinberg (8 Mawrth 1934 – 4 Mawrth 2021) sydd yn nodedig am ei fywgraffiad o Otto von Bismarck, Bismarck: A Life (2011).
Ganed yn Efrog Newydd i deulu Iddewig. Rabi yn synagog Park Avenue, Manhattan, oedd ei dad Milton Steinberg. Mynychodd Jonathan ysgol flaengar Walden, a dan nawddogaeth y teulu Warburg cafodd ei anfon i Brifysgol Harvard. Derbyniodd ei radd mewn economeg ym 1955.[1]
Aeth i Brifysgol Caergrawnt ym 1961 i gychwyn ar ei ddoethuriaeth dan oruchwyliaeth Harry Hinsley. Penodwyd Steinberg yn gymrawd ymchwil yng Ngholeg Crist ym 1963, ac yn gymrawd yng Neuadd y Drindod ac yn is-ddarlithydd yng Nghaergrawnt ym 1966. Cyhoeddodd ei draethawd doethurol ar ffurf y llyfr Yesterday's Deterrent: Tirpitz and the Birth of the German Battle Fleet (1965). Cafodd ei ddewis i diwtora Siarl, Tywysog Cymru ar bwnc hanes.[1]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Richard J. Evans, "Jonathan Steinberg obituary", The Guardian (21 Mawrth 2021). Adalwyd ar 22 Mawrth 2021.
- Academyddion Prifysgol Caergrawnt
- Americanwyr Iddewig
- Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Caergrawnt
- Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Harvard
- Genedigaethau 1934
- Hanesyddion Americanaidd yr 20fed ganrif
- Hanesyddion Americanaidd yr 21ain ganrif
- Hanesyddion Americanaidd yn yr iaith Saesneg
- Marwolaethau 2021
- Pobl o Ddinas Efrog Newydd