Jonathan Goodwin

Oddi ar Wicipedia
Jonathan Goodwin
Ganwyd20 Chwefror 1980 Edit this on Wikidata
Hwlffordd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethperfformiwr stỳnt, dihangwr Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://thedaredevil.com/ Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Dihangwr a styntiwr o Gymro yw Jonathan Goodwin (ganwyd 20 Chwefror 1980). Yn Hydref 2021 cafodd anafiadau difrifol wrth ymarfer am stynt ac ymddeolodd o'i yrfa yn perfformio campau dianc.

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Magwyd Goodwin yn Robeston Wathen, Sir Benfro, lle mae ei rieni yn parhau i fyw.[1]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Cychwynodd wneud fideos 'stynt' ar YouTube a dangoswyd rhain yn ddiweddarach ar Channel 4.[1]

Ymddangosodd ar deledu am y tro cyntaf ar y gyfres Dirty Tricks ar Channel 4 ac mae wedi ymddangos wedyn yn y rhaglenni teledu The Seven Stupidest Things to Escape From, a Deathwish Live. Ar y Discovery Channel, ymddangosodd ar One Way Out ac How Not to Become Shark Bait, lle caniataodd iddo i gael ei ymosod gan siarc riff Caribïaidd. Ymddangosodd hefyd mewn pennod o raglen Channel 4 Balls of Steel gyda'i dad yn ei helpu gyda stynt.

Ar 11 Medi 2012, cyhoeddwyd y byddai Goodwin yn ymddangos yn ei gyfres ei hun ar sianel Watch (UKTV) o'r enw The Incredible Mr. Goodwin. Roedd y sioe yn cynnwys amrywiaeth eang o styntiau, o ddringo nendyrau heb raff i "plancio eithafol", a ddarlledwyd yn gynnar yn 2013. Roedd hefyd yn cael ei ddangos ar Dave, UKTV, ac ar BBC America fel Dangerman: The Incredible Mr. Goodwin yn dechrau mis Gorffennaf 2013.[2]

Ar 9 Mawrth 2013 ymddangosodd ar The Jonathan Ross Show a pherfformiodd y stynt o orwedd ar hoelen sengl, a torrwyd breezeblock ar ei frest gyda gordd.

Daeth Goodwin i sylw'r cyhoedd pan aeth stynt Cheating the Gallows o'i le yn fyw ar deledu cenedlaethol ac fe'i crogwyd. Goroesodd y digwyddiad, gan ddioddef dim ond mân losgiadau rhaff. Mae rhai o gampau Goodwin yn cynnwys, cael ei gloi mewn blwch gyda 200,000 o wenyn, ei osod mewn concrit, ei llosgi wrth stanc, ei selio mewn bag gwactod aerdyn, wedi'i lenwi â gwenyn a'i wnïo i mewn i fuwch farw i enwi dim ond rhai.

Ymddangosodd Goodwin mewn cyfres deg rhan ar y Discovery Channel ym mis Ebrill 2008, One Way Out lle perfformiodd nifer o ddihangiadau llwyddiannus gan gynnwys cael ei gloi mewn blwch gyda 200,000 o wenyn a dianc o graen wedi ei hongian 30 troedfedd uwchben y ddaear.

Yn Hydref 2021, cafodd Goodwin ddamwain oedd bron yn angheuol, tra'n ymarfer ar gyfer stynt i raglen America's Got Talent: Extreme. Bwriad y stynt oedd dianc o siaced gaeth tra'n hongian 30 troedfedd uwchben y ddaear rhwng dau gar oedd ar dân.[3] Gollyngwyd y ceir yn rhy gynnar, gan achosi i Goodwin gael ei ddal rhyngddynt cyn disgyn.[4][5][6][7] Dioddefodd losgiadau trydedd radd, torrodd esgyrn a torrodd fadruddyn ei gefn. O ganlyniad, mae'n annhebygol o gerdded eto ac yn gorfod defnyddio cadair olwyn.[8]

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Mae Goodwin wedi ysgaru ac erbyn hyn wedi dyweddio a'r actores Amanda Abbington.[8] Roedden nhw wedi bod yn ffrindiau ar y cyfryngau cymdeithasol ers degawd. Wedi i Abbington wahanu o Martin Freeman, gwnaeth y ddau gyfarfod am y tro cyntaf yn Vienna. O fewn 30 munud, gofynnodd Goodwin i'w phriodi.[8]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Pembroke man’s scorpion stunt halted , WalesOnline, 21 Mawrth 2010. Cyrchwyd ar 15 Ebrill 2019.
  2. BBC America
  3. "Britain's Got Talent star Jonathan Goodwin paralysed". BBC News (yn Saesneg). 4 Mai 2022. Cyrchwyd 4 Mai 2022.
  4. "Actress Amanda Abbington recalls how escapologist fiance Jonathan Goodwin nearly died twice when stunt went wrong". Sky News (yn Saesneg). 4 Mai 2022. Cyrchwyd 4 Mai 2022.
  5. "AGT: Extreme Contestant Jonathan Goodwin Hospitalized After Daredevil Stunt Goes Wrong". People. October 15, 2021. Cyrchwyd 17 Hydref 2021.
  6. Seemayer, Zach (17 Hydref 2021). "'AGT: Extreme': Production Halted After Contestant Injured By Stunt". Entertainment Tonight. Cyrchwyd October 18, 2021.
  7. Bullock, D.M. (15 Hydref 2021). "Jonathan Goodwin Seriously Injured in Stunt Gone Wrong at 'AGT: Extreme' Rehearsal, Terrifying 911 Call Reveals". Breaking Daily News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-27. Cyrchwyd 20 Hydref 2021.
  8. 8.0 8.1 8.2 "Britain's Got Talent star Jonathan Goodwin paralysed". BBC News. 3 Mai 2022.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]