Martin Freeman

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Martin Freeman
Martin Freeman in 2018 (4).jpg
Freeman yn 2018
Ganwyd (1971-09-08) 8 Medi 1971 (47 oed)
Aldershot, Hampshire, Lloegr
Enwau eraillMartin John Christopher Freeman
Yn enwog amLove Actually, The Hobbit
GalwedigaethActor

Mae Martin John Christopher Freeman[1] (ganed 8 Medi 1971)[2] yn actor Seisnig, a ddaeth i amlygrwydd am bortreadu Tim Canterbury yn fersiwn gwreiddiol y Deyrnas Unedig o'r gomedi sefyllfa ar ffurf rhaglen ffug-ddogfen The Office. Chwaraeodd Dr. John Watson yn y ddrama drosedd Brydeinig Sherlock, Bilbo Baggins yn nhrioleg ffilmiau Peter Jackson The Hobbit, a Lester Nygaard yn y gyfres deledu ar ffurf drama drosedd-comedi dywyll Fargo.

Mae ei rolau nodweddiadol eraill yn cynnwys y gomedi ramantaidd Love Actually (2003), y ffilm ffuglen wyddonol gomig The Hitchhiker's Guide to the Galaxy (2005), y gomedi rannol-fyrfyryr Nativity! (2009), y drioleg gomedïaidd Three Flavours Cornetto, ac yn fwyaf adnabyddus yn y gomedi ffuglen wyddonol The World's End (2013). Mae hefyd yn portreadu Everett K. Ross yn ffilmiau'r Bydysawd Sinematig Marvel Captain America: Civil War (2016) a Black Panther (2018).[3] Ymhlith acolâdau eraill, mae wedi ennill Gwobr Emmy, Gwobr BAFTA a Gwobr yr Ymerodraeth, gydag enwebiadau gan gynnwys dau enwebiad Gwobr Emmy arall, dwy Wobr BAFTA arall, Gwobr Saturn, a Gwobr Glôb Aur.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Martin Freeman (April 2012)". Slow Boat Records. Retrieved 29 Mai 2013.
  2. Larman, Alexander. "Freeman, Martin (b. 1971)". BFI Screenonline. Retrieved 1 Ionawr 2012.
  3. Braun, J.W. (2010). The Lord of the Films. ECW Press.