John Thomas, Pentrefoelas
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
John Thomas, Pentrefoelas | |
---|---|
Ffugenw | Pentrefoelas ![]() |
Ganwyd | 1742 ![]() |
Bu farw | 1814 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | bardd ![]() |
- Am bobl eraill o'r un enw gweler John Thomas (gwahaniaethu)
Bardd Cymraeg oedd John Thomas neu John Thomas, Pentrefoelas (1742 – 1814). Canai yn null traddodiadol y bardd gwlad, sef mesurau'r canu rhydd Cymraeg wedi'u cynganeddu.[1]
Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]
Brodor o blwyf Pentrefoelas yn yr hen Sir Ddinbych (Sir Conwy heddiw) oedd John Thomas, lle y'i ganed yn 1742. Cadwai fasnach, a gwasanaethai fel cofrestrydd plwyf Pentrefoelas.[1]
Roedd testunau ei gerddi yn cynnwys "Yr Hwsmon Diog a'r Cristion Diofal", sydd i'w gweld mewn sawl blodeugerdd Gymraeg o'r cyfnod, e.e. Yr Awenydd (Caernarfon, d.d. tua 1860?). Mae dylanwad cerddi Huw Morus yn amlwg yn ei waith. Bu farw yn 1814. Cyhoeddwyd ei weithiau barddonol o dan olygiaeth Caledfryn yn 1845.[1]
Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
- Eos Gwynedd, gol. Caledfryn (John Jones, Llanrwst, 1845).