John Robert Jones (Alltud Glyn Maelor)

Oddi ar Wicipedia
John Robert Jones
FfugenwAlltud Glyn Maelor Edit this on Wikidata
Ganwyd1800 Edit this on Wikidata
Llanarmon-yn-Iâl Edit this on Wikidata
Bu farw11 Mai 1881 Edit this on Wikidata
Brymbo Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd, emynydd, crydd Edit this on Wikidata

Roedd John Robert Jones (Alltud Glyn Maelor) ( tua 180011 Mai, 1881) yn emynydd gwerinol.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ganwyd Alltud Glyn Maelor yn Llanarmon yn Iâl, mae'n debyg ei fod yn perthyn i Ehedydd Iâl. Symudodd i Frymbo ym 1834 ac yno fu'n byw am weddill ei fywyd.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Gweithiodd fel crydd am y rhan fwyaf o oes cyn mynd i weithio i'r gwaith haearn fel torrwr sgriwiau.

Roedd yn emynydd toreithiog. Cyhoeddwyd nifer ohonynt mewn dwy gyfrol: Y Fodrwy Aur ym 1866 a Y Rhosyn Diweddaf (1889). Yn ystod Diwygiad Cymru 1904 - 1905 cyhoeddwyd llyfr o emynau a fu'n boblogaidd yn ystod Diwygiad Cymru 1859 Gwreichion y Diwygiadau o dan olygyddiaeth Carneddog. Roedd y gyfrol yn cynnwys nifer o emynau poblogaidd Alltud Glyn Maelor.[2]

Yn ôl W. Eifion Powell ym Mwletin Cymdeithas Emynau Cymru:

Meddai ar ddiwylliant a diddordeb crefyddol dwfn a hoffai fydryddu rhai o'r ymadroddion a'r syniadau trawiadol a glywai o bulpud ac mewn seiat yn ogystal â mydryddu darnau o'r Ysgrythur. [3]

Ei emyn enwocaf oedd:

Cofio'r wyf yr awr ryfeddol,
Awr wirfoddol oedd i fod;
Awr a nodwyd cyn bod Eden,
Awr a'i dyben wedi dod;
Awr wynebu ag un aberth,
Awr fy Nuw i wirio'i nerth;
Hen awr annwyl prynu enaid,
Awr y gwaed - Pwy wyr ei gwerth?

Roedd rhai o'i emynau yn Llyfr Emynau'r Bedyddwyr Y Llawlyfr Moliant Newydd. Ond ni chafodd ei gynnwys yn y llyfr emynau cyd enwadol Caneuon Ffydd a disodlodd y llyfrau emynau enwadol yn 2001.

Teulu[golygu | golygu cod]

Cafodd Alltud Glyn Maelor a Mary ei wraig o leiaf 6 o feibion roedd ei fab hynaf Noah yn fardd gwlad hefyd ond bu farw yn 26ain oed. Roedd dau arall o'i feibion y Parch John R Jones, Pontypridd a'r Parch William Jones, Abergwaun [4] yn weinidogion gyda'r Bedyddwyr.

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw ym Mrymbo yn 81 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Eglwys Brymbo.[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]