John Metcalf

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
John Metcalf
Ganwyd 1946 Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaeth Cyfansoddwr Edit this on Wikidata
Gwobr/au MBE Edit this on Wikidata

John Metcalf MBE (ganwyd 13 Awst 1946) yw un o brif gyfansoddwyr Cymru.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn enedigol o Ucheldiroedd Abertawe, symudodd John Metcalf i Gaerdydd pan yn chwech oed gan dderbyn ei addysg yn Ysgol Bryntirion, Penybont ac Ysgol Dean Close yn Cheltenham. Astudiodd gyfansoddi gydag Alun Hoddinott ym Mhrifysgol Cymru Caerdydd gan dderbyn gradd BMus (dosbarth 1af gydag anrhydedd) yn 1967 cyn astudio cerddoriaeth electroneg rhwng 1970–1 yng Ngholeg Goldsmith, Prifysgol Llundain dan adain Hugh Davies. Yn ogystal derbyniodd wersi cyfansoddi yn breifat gan Don Banks.

Yn 1969 sefydlodd Ŵyl Bro Morgannwg sydd ers 1991 wedi canolbwyntio’n benodol ar gerddoriaeth gan gyfansoddwyr byw, gan dderbyn cydnabyddiaeth genedlaethol o’i rhaglennu drwy Wobr Prudential i’r Celfyddydau yn 1994. Yn 1986 daeth yn un o gyfarwyddwyr artistig Canolfan Gelf y Banff yn Canada a chyfansoddwr preswyl ar Theatr Gerdd. Tra’n parhau i fod yn gyfarwyddwr artistig cyswllt yng Nghanolfan y Banff dychwelodd i fyw i Gymru a rhwng 1996–2007 bu’n gyfarwyddwr artistig ar Ŵyl Gerdd a Chelfyddydau Abertawe.

O ran anrhydeddau a gwobrau fe’i penodwyd yn Gyfansoddwr Cyswllt Canolfan Gerdd Canada ynghyd â’i urddo’n Gymrawd er Anrhydedd gyda Phrifysgolion Caerdydd, Llanbedr Pont Steffan a Choleg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru. Derbyniodd Wobr Goffa John Edwards gan Urdd er Hyrwyddo Cerddoriaeth Cymru (sydd nawr yn Gymdeithas Cerddoriaeth Cymru) ym 1995 am ei wasanaeth i gerddoriaeth yng Nghymru ac yn 2012 derbyniodd yr MBE am ei wasanaeth i gerddoriaeth.

Cyfansoddi[golygu | golygu cod y dudalen]

Arddull Gynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu gwahanol ddylanwadau ei fentoriaid cyfansoddi yn amlwg iawn ar ei weithiau cynnar lle ceir defnydd eang o dechnegau’r gyfres ddeuddeg nodyn. Seiliwyd ei Auden Songs (1973) ar gyfres ddeuddeg nodyn esgynnol sy’n rhychwantu dwy wythfed gyda’r nodyn olaf ym mha bynnag drawsgyweiriad yr un nodyn ar cyntaf.

Yn ogystal defnyddia Dyad (1976) y deuddeg nodyn cromatig i gyd ond y tro hwn mewn cyfresi esgynnol a gostyngol nad yw’n anhebyg i’r raga Indiaidd. Mae cromatyddiaeth fwy rhydd yn amlwg yn ei gomisiwn Gŵyl Abertawe,

Boundaries of Time (1985) sy’n waith ar raddfa fawr ar gyfer unawdwyr, corws a cherddorfa ac yn un gwaith ymysg nifer o’r 1980au sy’n archwilio pryderon gwleidyddol ac amgylcheddol, nid anhebyg i Or Shall We Die (1983) gan Michael Berkeley. Yn ogystal yn ei opera Tonrak (1990) ceir cerddoriaeth sydd ill dau yn egnïol a dig, sy’n adwaith ddwys i’r un materion â’r uchod.

Arddull Ddiweddar[golygu | golygu cod y dudalen]

Gellir adnabod Llyfr Lloffion y Delyn o 1992 fel y gwaith cyntaf sy’n arddel arddull bresennol Metcalf lle ceir dwy brif nodwedd yn ganolog. Y nodwedd gyntaf yw’r symleiddio a wnaeth o’r harmoni a’r defnydd o harmoniau diatonig a moddawl, a oedd yn ymbellhau’r cyfansoddwr o’i ieithwedd dra gromatig ei allbwn yn ystod yr 1980au. Yn aml llenwir y cordiau cyfeiliol gyda nodau ychwanegol o’r un raddfa foddawl gan ffurfio cordiau clystyrog a rhai heb eu hadfer (megis gyda’r 4ydd wedi ei ohirio) sy’n cyfoethogi’r harmonïau.

Yr ail nodwedd yw’r pwyslais gynyddol ar rhythm o fewn ei ieithwedd gyfansoddi, lle dibynna’n helaeth ar ailadrodd patrymau rhythmig croesacennog i greu llif gerddorol. Er enghraifft yn dilyn rhagarweiniad araf a digyffro yn Paradise Haunts… (1995) ceir ffigwr cyson rhythmig cwaferi yn sail i’r gwaith gan greu gwely cyson didorr diddorol. Yn ddiweddarach yn y gwaith ac yn achlysurol ychwanegir rhythmau cymhleth (megis 5:4 neu 7:6) i gymhlethu’r gwead rhythmig.

Er fod nifer helaeth o weithiau ar raddfa fawr yn bodoli, awgryma arddull Metcalf ei fod ar y cyfan yn fwy cyfforddus yn creu cerddoriaeth unawdol neu ensemble ar raddfa lai. Mae ieithwedd symylach ei arddull aeddfed a’r ailadrodd uniongyrchol yn cynnig ei hun yn fwy naturiol i idiom siambr fwy bersonol, sydd yn barod yn rhifo dros hanner cant o ddarnau.

Rhestr o gyfansoddiadau allweddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cerddorfaol[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Dyad (1976) ar gyfer cerddorfa linynnol
  • Boundaries of Time (1985) ar gyfer 3 unawdydd, corws a cherddorfa
  • Passus (2000) ar gyfer cerddorfa lawn
  • Cello Symphony (2004) ar gyfer sielo unawdol a cherddorfa
  • In Time of Daffodils (2006) ar gyfer bariton a cherddorfa

Operâu[golygu | golygu cod y dudalen]

  • The Journey (1979) a gomisiynwyd gan WNO.
  • Tornrak (1990) a gomisiynwyd gan WNO.
  • Kafka’s Chimp (1996), a seiliwyd ar stori fer A Report to An Academy gan Franz Kafka.
  • A Chair in Love (2002-8)
  • Under Milk Wood (2012-3), addasiad o’r ddrama radio gan Dylan Thomas.

Ensemble/offerynnol[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Llyfr Lloffion y Delyn (1992)
  • Inner Landscapes (1994) ar gyfer piano
  • Never
  • Odd or Even (1995) ar gyfer chwe phiano
  • Paradise Haunts… (1995) ar gyfer ffidil a phiano
  • Mapping Wales (2000) ar gyfer telyn a phedwarawd llinynnol
  • Transports (2000) ar gyfer clarinet, ffidil, sielo a phiano
  • Three Mobiles (2001) ar gyfer sacsoffôn a phiano (neu gerddorfa linynnol)
  • Pedwarawd Llinynnol – Llwybrau Cân (2007)
  • Septet (2008) ar gyfer ffliwt, clarinet, telyn a phedwarawd llinynnol

Lleisiol/corawl[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Auden Songs (1973) ar gyfer mezzo a phiano
  • Caneuon y Gerddi (1999) ar gyfer llais uchel/isel a phiano
  • Plain Chants (2001) ar gyfer côr SATB digyfeiliant

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolen allanol[golygu | golygu cod y dudalen]