John Martyn

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
John Martyn
JohnMartyn1978.jpg
Ganwyd 11 Medi 1948 Edit this on Wikidata
New Malden Edit this on Wikidata
Bu farw 29 Ionawr 2009 Edit this on Wikidata (60 oed)
Kingston upon Thames Edit this on Wikidata
Label recordio Island Records Edit this on Wikidata
Galwedigaeth canwr-gyfansoddwr, gitarydd, canwr Edit this on Wikidata
Arddull cerddoriaeth werin Edit this on Wikidata
Priod Beverley Martyn Edit this on Wikidata
Gwobr/au OBE Edit this on Wikidata
Gwefan http://www.johnmartyn.com/ Edit this on Wikidata

Roedd John Martyn, OBE (11 Medi 194829 Ionawr 2009), a ganed yn Iain David McGeachy, yn ganwr, gitarydd a cherddor Prydeinig. Dros yrfa 40-mlynedd, fe ryddhaodd 21 albwm stiwdio, gan dderbyn adnabyddiaeth feirniadol gyson. Cychwynnodd ei yrfa yn 17 mlwydd oed fel aelod allweddol o'r sin gerddoriaeth gwerin, gan dynnu ysbrydoliaeth o gerddoriaeth blues Americanaidd a cherddoriaeth Saesneg traddodiadol, a llofnodi gyda Island Records. Erbyn yr 1970au dechreuodd gynnwys dylanwadau jazzroc i'w sain ar albymau megis Solid Air (1973) ac One World (1977), yn ogystal ag arbrofi gydag effeithiau gitâr a pheiriannau oedi tâp fel Echoplex. Cafodd gyfnod anodd gyda chamddefnyddio sylweddau a phroblemau teuluol trwy gydol yr 1970au a'r 1980au, er fe barhaodd i ryddhau albymau tra'n cydweithio ag artistiaid fel Phil Collins a Lee "Scratch" Perry. Parhaodd i weithio tan ei farwolaeth yn 2009. Disgrifiwyd gan The Times fel "gitarydd a chanwr gwefreiddiol yr oedd ei gerddoriaeth yn pylu'r ffiniau rhwng gwerin, jazz roc a'r blues".