John Howard Purnell
Gwedd
| John Howard Purnell | |
|---|---|
| Ganwyd | 17 Awst 1925 y Rhondda |
| Bu farw | 12 Ionawr 1996 Abertawe |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | cemegydd |
| Swydd | Llywydd Cymdeithas Frenhinol Cemeg |
| Gwobr/au | OBE, Beilby Medal and Prize |
Cemegydd o Gymru oedd John Howard Purnell OBE FRSC[1] (17 Awst 1925 — 12 Ionawr 1996).[2]
Addysg
[golygu | golygu cod]Mynychodd Ysgol Sir Maes y Dderwen yn Ystradgynlais cyn mynychu Ysgol Uwchradd Pentre.[3]
Ar ôl graddio gydag anrhydedd dosbarth cyntaf mewn cemeg yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd yn 1946 aeth ymlaen i Brifysgol Cymru a derbyniodd PhD yn 1952.[3]
Gyrfa academaidd
[golygu | golygu cod]Dechreuodd Purnell weithio ym maes cromatograffaeth nwy yn y maes hwn ym 1952 ym Mhrifysgol Caergrawnt tra'n gweithio gyda'r Athro R. G. W. Norrish.[3] Ym 1965 daeth yn Athro Cemeg Ffisegol yng Ngholeg y Brifysgol, Abertawe lle bu hyd ei ymddeoliad yn 1992
Roedd yn llywydd y Gymdeithas Gemeg Frenhinol rhwng 1994 a 1996.
Gwobrau ac anrhydeddau
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Swansea University, Honorary Awards". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-01-28.
- ↑ "Obituary in the Independent". Independent.co.uk. 17 Ionawr 1996.
- 1 2 3 "Article in Chromarographia" (PDF).[dolen farw]
- ↑ "Beilby Medal and Prize Previous Winners". Royal Society of Chemistry. Cyrchwyd 19 Mai 2018.