John Graham Chambers
John Graham Chambers | |
---|---|
Ganwyd | 12 Chwefror 1843 Plas Llanelli |
Bu farw | 4 Mawrth 1883 Earl's Court |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | swyddog chwaraeon, paffiwr, rhwyfwr |
Gwobr/au | International Boxing Hall of Fame |
Chwaraeon | |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Athletwr o Gymro oedd John Graham Chambers (12 Chwefror 1843 – 4 Mawrth 1883). Cyflawnodd nifer o orchestion yn y byd chwaraeon yn ystod ei fywyd.
Rhwyfodd i Gaergrawnt, sefydlodd chwaraeon rhyng-golegol, hyfforddodd bedwar criw buddugol y Ras Gychod, dyfeisiodd Rheolau Queensberry, llwyfannodd Rownd Derfynol y Cwpan a Regatta Thames, sefydlodd bencampwriaethau ar gyfer biliards, bocsio, seiclo, reslo ac athletau. Rhwyfod wrth ochr Matthew Webb wrth iddo nofio'r Sianel a golygodd bapur newydd cenedlaethol.
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Ganed Chambers yn Mhlas Llanelli yn nhref Llanelli, Sir Gaerfyrddin, Cymru.[1] Roedd yn fabi i William Chambers, tirfeddiannwr Cymreig o'r teulu Chambers. Addysgwyd ef yn Eton a Choleg y Drindod, Caergrawnt, lle y graddiodd yn BA, enillodd y Colquhoun Sculls a daeth yn Llywydd Clwb Cychod y Brifysgol.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Cyfundrefnodd Chambers y “Rheolau Marcwis Queensberry”, yr hyn y mae bocsio modern yn seiliedig arnynt. Yn 1867, sefydlodd y rheolau, sy'n cynnwys y defnydd gofynnol o fenig bocsio, y cyfrif i ddeg a rowndiau tri munud. Mae'n aelod o'r International Boxing Hall of Fame.
Bu hefyd yn gatalydd yn sefydlu athletau amatur ym Mhrydain, wedi iddo sefydlu'r Amateur Athletic Club yn 1866, a bu'n bresennol pan ffurfiwyd y Gymdeithas Athletau Amatur yn 1880.[2][3]
Rhwyfodd Chambers ddwywaith hefyd yn y Ras Gychod dros Gaergrawnt ym 1862 a 1863, gan golli’r ddau dro, a hyfforddi chwe chriw Light Blues ym 1865-66, unwaith eto wedi ei trechu. O 1871-74 hyfforddodd Caergrawnt pan gafwyd pedair buddugoliaeth ar ôl ei gilydd, gan gynnwys y gyntaf ar seddau llithro yn 1873.
Bywyd diweddarach
[golygu | golygu cod]Bu farw Chambers, yn 40 oed, yn 10 Wetherby Terrace, Earls Court, Llundain ar 4 Mawrth 1883 ac mae wedi'i gladdu ym Mynwent Brompton.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Bryant, M. A. "Chambers, John Graham". Oxford Dictionary of National Biography (arg. online). Gwasg Prifysgol Rhydychen. doi:10.1093/ref:odnb/5075.CS1 maint: ref=harv (link) (mae angen tanysgrifiad neu aelodaeth o lyfrgell gyhoeddus i ddarllen yr erthygl)
- ↑ Holt, Richard. "Amateur Athletic Association (act. 1880–1991)". oxforddnb.com. Cyrchwyd 5 July 2012.
- ↑ Williams, Clive. "Welsh Athletics: Our History". welshathletics.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 August 2012. Cyrchwyd 5 July 2012.