Neidio i'r cynnwys

John Burningham

Oddi ar Wicipedia
John Burningham
Ganwyd27 Ebrill 1936 Edit this on Wikidata
Farnham, Farnham Edit this on Wikidata
Bu farw4 Ionawr 2019 Edit this on Wikidata
o niwmonia Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Ysgol Ganolog Celf a Dylunio
  • Summerhill School Edit this on Wikidata
Galwedigaethllenor, darlunydd, sgriptiwr, awdur plant Edit this on Wikidata
PriodHelen Oxenbury Edit this on Wikidata
Gwobr/auMedal Kate Greenaway, Medal Kate Greenaway Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://johnburningham.com/biography/ Edit this on Wikidata

Darlunydd ac awdur llyfrau plant Seisnig yw John Burningham (ganed 27 Ebrill 1936).[1]

Bywgraffiad

[golygu | golygu cod]

Ganed Burningham yn Farnham, Surrey, Lloegr[2] yn fab i Charles a Jessie (Mackintosh) Burningham.[3] Ymunodd â'r Friends' Ambulance Unit ym 1953.[3] Yn 20 oed, mynychodd y Central School of Art a graddiodd ym 1959.[4] Wedi gweithio ar amryw o bosteri ar gyfer London Transport a British Transport a ffilmiau animeiddedig,[3] dechreuodd ei yrfa ym 1963 [5] gyda'r llyfr Borka: The Adventures of a Goose With No Feathers[6] a enillodd Fedal Kate Greenaway yr un flwyddyn.[2]

Priododd Burningham y darlunydd Helen Gillian Oxenbury ym 1964,[3] a parhaodd i ysgrifennu. Enillodd ei lyfr Mr. Gumpy's Outing Fedal Kate Greenaway Medal am yr eilwaith ym 1970. Mae wedi cyfrannu dros 60 o lyfrau i lenyddiaeth plant,[4] ac mae wedi derbyn nifer o wobrau,[7] gan gynnwys Deutscher Jugendliteraturpreis 1980. Seilwyd ffilm Granpa 1989 ar ei lyfr 1984 o'r un enw.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Bloomsbury.com - Bloomsbury Author Information". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-06-15. Cyrchwyd 2011-06-10.
  2. 2.0 2.1  John Burningham. Walker Books.
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3  John Burningham. Greenville Public Library.
  4. 4.0 4.1  John Burningham. British Council: Contemporary Writers.
  5.  John Burningham. The British Library.
  6.  Borka - The Adventures of a Goose With No feathers - 40th Anniversary Edition. Biblio.com.
  7.  John (Mackintosh) Burningham (1936-). biography.jrank.org.