Neidio i'r cynnwys

John Arden

Oddi ar Wicipedia
John Arden
Ganwyd26 Hydref 1930 Edit this on Wikidata
Barnsley Edit this on Wikidata
Bu farw28 Mawrth 2012 Edit this on Wikidata
Gaillimh Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Alma mater
Galwedigaethdramodydd, llenor, nofelydd, ymgyrchydd heddwch Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, V. S. Pritchett Short Story Prize, star on Playwrights' Sidewalk Edit this on Wikidata

Roedd John Arden (26 Hydref 1930 - 28 Mawrth 2012) yn ddramodydd o Loegr sy'n cael ei gydnabod fel "un o ddramodwyr mwyaf arwyddocaol Gwledydd Prydain ddiwedd y 1950au a dechrau'r 60au".[1]

Cefndir

[golygu | golygu cod]

Roedd Arden yn enedigol o Barnsley, yn fab i Charles Alwyn Arden (1891–1979), rheolwr ffatri wydr ac Annie Elizabeth, née Layland, athrawes gynradd, ei wraig.[2] Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Sedbergh yn Swydd Cumbria. Ar ôl dwy flynedd o wasanaeth cenedlaethol yn y corfflu cudd-wybodaeth aeth i Goleg y Brenin, Caergrawnt a Choleg Celf Caeredin, lle bu'n astudio pensaernïaeth.[3] Enillodd sylw beirniadol gyntaf am ei ddrama radio The Life of Man ym 1956 yn fuan wedi gorffen ei astudiaethau.[4]

Ym 1957 priododd Arden yr actores Margaretta D'Arcy, bu hi'n cydweithio ag ef ar nifer o ddramau. Fe wnaethant ymgartrefu yn Galway a sefydlu Gweithdy Theatr Galway ym 1976. Bu iddynt pum mab.[5]

I ddechrau, cysylltwyd Arden â'r English Stage Company cwmni yn y Royal Court Theatre, Llundain. Ar gyfer y cwmni ysgrifennodd, Serjeant Musgrave's Dance, (1959).[6] Mae'r ddrama yn adrodd hanes pedwar dyn sydd wedi ffoi o'r fyddin yn cyrraedd tref lofaol yng ngogledd Lloegr i gael dial am weithredoedd o drais yn erbyn y trigolion lleol gan y fyddin drefedigaethol. Dylanwadwyd ar ei waith gan Bertolt Brecht a'r mudiad Theatr Epig.[7] Mae'r dylanwad i'w gweld yn Left-Handed Liberty (1965), sy'n dathlu pen-blwydd Magna Carta .[8] Mae ei ddramâu eraill yn cynnwys Live Like Pigs, The Workhouse Donkey, ac Armstrong's Last Goodnight, a berfformiwyd yng Ngŵyl Chichester 1963 gan Theatr Genedlaethol Lloegr ar ôl iddi gael ei wrthod gan y Royal Court.[1]

Mae ei ddrama epig ef a D'Arcy mewn tair rhan The Island of the Mighty (1972), yn plethu themâu o Malory a’r farddoniaeth Gymraeg gynharaf yng nghyd-destun yr hyn a elwir yn “The New Matter of Britain,”

Dewiswyd ei ddrama radio 1978, Pearl, gan arolwg gan The Guardian [9] fel un o'r dramâu gorau yn y cyfrwng hwnnw. Ysgrifennodd nifer o nofelau hefyd, gan gynnwys Silence Among the Weapons, a gyrhaeddodd restr fer Gwobr Booker 1982, a Books of Bale, am yr ymddiheurwr Protestannaidd John Bale . Roedd yn aelod o'r Gymdeithas Lenyddol Frenhinol .[3]

Ymgyrchoedd gwleidyddol

[golygu | golygu cod]

Yn 1961 daeth yn un o sylfaenwyr y grŵp gwrth niwclear Y Pwyllgor o Gant a bu hefyd yn gadeirydd y cylchgrawn heddychol Peace News .[10] Bu am gyfnod yn aelod o Blaid Sinn Féin Swyddogol .[11] Roedd yn eiriolwr dros ryddid sifil, ac mae ei wrthwynebu i ddeddfwriaeth gwrthderfysgaeth yn cael ei fynegi yn ei ddrama radio The Scam (2007) .

Diwedd oes

[golygu | golygu cod]

Cafodd ei ethol i Aosdána,[12] cymdeithas o artistiaid Gwyddelig, yn 2011 cyn marw yn Galway yn 2012.[13]

Gwobrau

[golygu | golygu cod]
  • Gwobr Evening Standard, 1960
  • Gwobr John Whiting, 1973
  • Gwobr VS Pritchett, 2003
  • Rhestr fer Gwobr Booker, 1982
  • Gwobr Giles Cooper, 1982

Gweithiau

[golygu | golygu cod]

Llyfrau

[golygu | golygu cod]

Dramâu

[golygu | golygu cod]
  • Sergeant Musgrave's Dance: an Unhistorical Parable (1960)
  • Live Like Pigs (1961)
  • The workhouse donkey: a vulgar melodrama (1964)
  • Armstrong's last goodnight (1965)
  • Ironhand: wedi ei addasu o Goetz von Berlichingen, Goethe (1965)
  • Left-handed liberty (1965)
  • Two autobiographical plays: the true history of Squire Jonathan and his unfortunate treasure, and The bagman, or the impromptu of Muswell Hill (1971)
  • Pearl: a play about a play within the play (1979)
  • Books of Bale (1988)
  • Cogs tyrannic (1992)
  • Jack Juggler and the emperor's whore: seven tall tales linked together for an indecorous toy theatre (1995)
  • Stealing Steps (2003)

Mae'r dramâu a ysgrifennwyd mewn cydweithrediad â Margaretta D'Arcy yn cynnwys:

  • The Happy Haven (1962)
  • The Business of Good Government: a Christmas Play (1963)
  • Ars Longa Vita Brevis (1965)
  • The Royal Pardon (1967)
  • The Hero Rises Up (1969)
  • The Island of the Mighty trilogy (Part I, "Two Wild Young Noblemen: Concerning Balin and Balan and How Ignorant They Were"; Part II, "Oh the Cruel Winter: Concerning Arthur – How He Refused to See That the Power of His Army Was Finished"; and Part III, "A Handful of Watercress: Concerning Merlin – How He Needed to Be Alone and Then How He Needed Not to Be Alone") (1974) [14]
  • The Ballygombeen Bequest
  • The Non-Stop Connolly Show: a dramatic cycle of continuous struggle in six parts (1977)
  • Vandaleur's folly: an Anglo-Irish melodrama: the hazard of experiment in an Irish co-operative, Ralahine, 1831 (1981)
  • The little gray home in the west: an Anglo-Irish melodrama (1982)
  • Keep the People Moving (BBC Radio);
  • Portrait of a Rebel (RTÉ );
  • The Manchester Enthusiasts (BBC 1984 a RTÉ 1984 gyda'r teitl amgen The Ralahine Experiment);
  • Whose is the Kingdom? (drama radio 9 pennod, BBC 1987).

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 The Guardian Obituary: John Arden adalwyd 31 Hydref 2019
  2. Billington, M (27 Ionawr 2016). "Arden, John (1930–2012), playwright and author". ODNB. Cyrchwyd 31 Hydref 2019.
  3. 3.0 3.1 "John Arden". Telegraph. 2012-03-30. ISSN 0307-1235. Cyrchwyd 2019-10-31.
  4. "John Arden | British playwright". Encyclopedia Britannica. Cyrchwyd 2019-10-31.
  5. Deane, Seamus; Carpenter, Andrew; Williams, Jonathan. The Field Day anthology of Irish writing. Lawrence Hill, Derry, Northern Ireland: Field Day Publications. ISBN 0946755205. OCLC 24789891.
  6. "In Memory of John Arden". Royal Court. Cyrchwyd 2019-10-31.
  7. "Theatr Genedlaethol Cymru Pecyn addysg ar gyfer Y Cylch Sialc gan Brecht" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2019-10-18. Cyrchwyd 2019-10-31.
  8. "BBC Radio 3 - Sunday Feature, Left-Handed Liberty". BBC. Cyrchwyd 2019-10-31.
  9. "John Arden radio plays - DIVERSITY". www.suttonelms.org.uk. Cyrchwyd 2019-10-31.
  10. Wroe, Nicholas (2004-01-03). "Profile: John Arden". The Guardian. ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2019-10-31.
  11. III., Lentz, Harris M., (2013). Obituaries in the performing arts, 2012. Jefferson, N.C.: McFarland & Company, Inc. ISBN 9781476603858. OCLC 841416459.CS1 maint: extra punctuation (link)
  12. Bol, Rosita. "O'Connor one of five new Aosdána members". The Irish Times. Cyrchwyd 2019-10-31.
  13. Siggins, Lorna. "Playwright and political activist John Arden dies". The Irish Times. Cyrchwyd 2019-10-31.
  14. "ARDEN, JOHN, and MARGARETTA D ARCY - Arthurian era". web.archive.org. 2013-10-29. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-10-29. Cyrchwyd 2019-10-31.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]