Johann Amerbach

Oddi ar Wicipedia
Johann Amerbach
Ganwyd1440, c. 1441 Edit this on Wikidata
Amorbach Edit this on Wikidata
Bu farw25 Rhagfyr 1513 Edit this on Wikidata
Basel Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Almaen, Y Swistir Edit this on Wikidata
Galwedigaethargraffydd, cyhoeddwr Edit this on Wikidata
PlantMargaretha Amerbach, Basilius Amerbach, Bonifacius Amerbach, Bruno Amerbach Edit this on Wikidata

Argraffwr Almaenig oedd Johann Amerbach (tua 14431513) a oedd yn un o brif gyhoeddwyr Basel yng nghyfnod yr incwnabwla.

Ganed yn Amerbach, tref a oedd ar y pryd yn rhan o Dywysog-Esgobaeth Würzburg, yn rhanbarth Ffranconia. Astudiodd ym Mharis gyda Johann Heynlin von Stein, yr ysgolhaig o ddyneiddiwr a gyflwynodd y wasg argraffu i Ffrainc. Mae'n debyg i Amerbach ei hun ddysgu ei grefft yn Fenis, ac oddi yno symudodd i Basel i sefydlu ei gwmni argraffu.[1]

Cychwynnodd ar ei yrfa yn cyhoeddi gwerslyfrau ysgolaidd traddodiadol gyda chymorth Johann Froben a Johann Petri. Enillodd enw iddo'i hun drwy gyhoeddi testunau ar bynciau dyneiddiaeth a phatristeg. Gweithiodd nifer o ddyneiddwyr hyddysg yn olygyddion i Amerbach, gan gynnwys Heynlin, Beatus Rhenanus, Johann Reuchlin, Conrad Pellikan, a Sebastian Brant.[1]

Roedd ei fab ieuangaf, Bonifacius, yn gyfreithegwr o fri.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Charles G. Nauert, Historical Dictionary of the Renaissance (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2004), tt. 13–14.