Joely Richardson
Joely Richardson | |
---|---|
Llais | Joely Richardson voice.ogg |
Ganwyd | Joely Kim Richardson 9 Ionawr 1965 Marylebone |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | actor, actor llwyfan, actor ffilm |
Taldra | 176 centimetr |
Tad | Tony Richardson |
Mam | Vanessa Redgrave |
Priod | Tim Bevan |
Partner | Archie Stirling |
Plant | Daisy Bevan |
Gwobr/au | Gwobr y 'Theatre World' |
Actores Seisnig sydd yn fwyaf enwog am ei rôl fel Julia McNamara yn y gyfres deledu Nip/Tuck ydy Joely Kim Richardson (ganed 9 Ionawr 1965).
Ei bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Cafodd ei geni yn Llundain i deulu a weithiai ym myd y theatr. Mae'n ferch i'r actores Vanessa Redgrave a'r cyn-gyfarwyddwr Tony Richardson. Mae'n wyres i Syr Michael Redgrave. Bu farw ei chwaer, yr actores Natasha Richardson tra'n sgïo yn 2009 a thrwy ei chwaer, mae Joely Richardson yn chwaer yng nghyfraith i'r actor Liam Neeson. Mae hi hefyd yn nith i Lynn Redgrave a Corin Redgrave ac yn gefnither i'r actores Jemma Redgrave. Ymddangosodd Joely Richardson fel actor cefnogol pan oedd yn dair oed yn y fersiwn 1968 o The Charge of the Light Brigade a gyfarwyddwyd gan ei thad.
Derbyniodd Richardson a'i chwaer Natasha eu haddysg cynnar yn Ysgol San Paul i Ferched yn Hammersmith, Llundain. Pan oedd yn 14 oed, derbyniodd ysgoloriaeth tenis a symudodd i ysgol breswyl Ysgol Denis Harry Hopman yn Tampa, Fflorida. Ym 1983, graddiodd o Ysgol Thacher, Califfornia a dychwelodd i Lundain i astudio yn RADA.