Jessie Donaldson
Jessie Donaldson | |
---|---|
Ganwyd | 1799 Bryste |
Bu farw | 1889 Abertawe |
Man preswyl | Abertawe, Ohio |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Galwedigaeth | athro, ymgyrchydd |
Roedd Jessie Donaldson (ganwyd Jessie Heineken; 1799 – 1889) yn athrawes ac ymgyrchydd gwrth-gaethwasiaeth.[1]
Cafodd ei geni ym Mhryste, yn ferch i'r ymgyrchydd gwrth-gaethwasiaeth Samuel Heineken. Gyda'i chwaer, Mary-Ann, Jessie oedd perchennog ysgol yn Abertawe. Priododd Francis Donaldson ym 1840, a symudon nhw i Ohio, UDA.[2] Daeth eu tŷ yn lloches i gaethweision a oedd wedi dianc. Daethant yn ôl i Abertawe ym 1866, ar ôl diddymu caethwasiaeth. Bu farw Francis ym 1873.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ John Cooper (5 Gorffennaf 2020). "The Welsh woman who left everything behind to help slaves to freedom in America". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 24 Rhagfyr 2020.
- ↑ "Memorial to Jessie Donaldson, Swansea". History Points (yn Saesneg). Cyrchwyd 24 Rhagfyr 2020.