Jennifer Garner

Oddi ar Wicipedia
Jennifer Garner
Ganwyd17 Ebrill 1972 Edit this on Wikidata
Houston Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • George Washington High School
  • Prifysgol Denison Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor teledu, cynhyrchydd ffilm, cyfarwyddwr ffilm, actor llwyfan, actor ffilm Edit this on Wikidata
Adnabyddus amAlias, Daredevil Edit this on Wikidata
Taldra178 centimetr Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddolplaid Ddemocrataidd Edit this on Wikidata
TadWilliam John Garner Edit this on Wikidata
MamPatricia Ann English Edit this on Wikidata
PriodBen Affleck, Scott Foley Edit this on Wikidata
PartnerJohn C. Miller, Ben Affleck Edit this on Wikidata
PlantViolet Affleck, Seraphina Affleck, Sam Affleck Edit this on Wikidata
Gwobr/auseren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Hasty Pudding Woman of the Year Edit this on Wikidata

Mae Jennifer Anne Garner (ganed 17 Ebrill 1972)[1] yn actores a chynhyrchydd ffilm Americanaidd. Daeth Garner yn enw cyfarwydd yn dilyn ei rhan yn y comedi Dude, Where's My Car (2000). Cyn mynd ymlaen i chwarae rôl ategol yn Pearl Harbor. Derbyniodd gydnabyddiaeth am ei pherfformiad fel Sydney Bristow, swyddog CIA yn y ddrama ABC gyffrous Alias, a ddarlledwyd rhwng 2001 a 2006. Am ei phortread yn Alias, derbyniodd wobr Golden Globe, gwobr SAG ynghyd â phedwar enwebiad gwobr Emmy.

Yn ystod ei chyfnod ar Alias, derbyniodd Garner rôl cameo yn Catch Me If You Can (2002), cyn derbyn y brif ran yn y comedi rhamantus 13 Going on 30 (2004). Mae Garner wedi ymddangos mewn sawl ffilm gan gynnwys y ffilmiau archarwyr Daredevil (2003), Elektra (2005), The Kingdom (2007), y ddrama gomedi Juno (2007), a'r comedi rhamantus The Invention of Lying (2009). O 2010 ymlaen ymddangosodd Garner yn gomedi ddrama ffantasi The Odd Life of Timothy Green (2012), y ddrama fywgraffyddol Dallas Buyers Club (2013), a'r comedi Alexander and the Terrible, Horrible, No Good, Very Bad Day (2014).

Ers diwedd yr 2000au mae Garner wedi ymgyrchu'n gyson dros faterion addysg fel aelod o Fwrdd a llysgennad yr elusen Save the Children. Mae hi hefyd yn llysddadleuwr dros ymgyrchoedd gwrth-paparazzi ymhlith plant enwog. Ar ôl pedair blynedd o briodas â Scott Foley, priododd Garner yr actor Ben Affleck yn 2005, mae ganddynt dri o blant. Ym 2015 gwahanodd Garner ac Affleck.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]