Jen Hadfield
| Jen Hadfield | |
|---|---|
| Ganwyd | 1978 |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater |
|
| Galwedigaeth | bardd, ysgrifennwr, libretydd |
| Gwobr/au | Gwobr Eric Gregory, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol |
| Gwefan | http://www.rogueseeds.blogspot.com |
Bardd o Loegr yw Jen Hadfield (ganwyd 1978) sydd hefyd yn cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel arlunydd a libretydd. Mae ei themau'n cynnwys y cartref, y gwyll, tirluniau ac iaith.[1]
Fe'i ganed yn Shetland yn 1978. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Caeredin a Phrifysgol Glasgow.[2]
Hyd at 2019 roedd wedi cyhoeddi tri chasgliad o farddoniaeth. Enillodd ei chasgliad cyntaf, Almanacs, Wobr Eric Gregory yn 2003. Hadfield yw'r person ieuengaf i dderbyn Gwobr TS Eliot, gyda'i hail gasgliad, Nigh-No-Place, a hynny yn 2008. [3]
Mae cerddi a chelf weledol Hadfield wedi'u seilio ar ei phrofiad o fyw, gweithio a theithio yn Shetland ac Ynysoedd Allanol Heledd, yr Alban, a Chanada hefyd. Yn ei gwaith fel artist, mae hi'n aml yn defnyddio gwrthrychau a ddarganfuwyd, deunyddiau achub a broc môr.
Yn 2007, galluogodd Gwobr Dewar iddi deithio ym Mecsico ac ymchwilio i gelf werinol defosiynol y wlad. "Creodd arddangosfa unigol o ex votos Shetland yn arddull celf werin sanctaidd Mecsico" - tirluniau bach, cludadwy, cyfarwydd sy'n llawn dop o duniau tybaco wedi'u hindreulio.
Magwraeth
[golygu | golygu cod]Daeth ei mam o Ganada a'i thad o Loegr.[4] Fe'i magwyd yn Swydd Gaer, Lloegr.[5]
Derbyniodd radd BA mewn Saesneg a Llenyddiaeth Loegr cyn derbyn MLitt am sgwennu creadigol.[5]
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Eric Gregory (2003), Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol (2021)[6] .
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Jen Hadfield". Poetry Foundation. Cyrchwyd 9 Ionawr 2018.
- ↑ Dyddiad geni: "Jen Hadfield". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Jen Hadfield". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Anrhydeddau: https://rsliterature.org/fellows/jen-hadfield/. dyddiad cyrchiad: 3 Gorffennaf 2025.
- ↑ "About Jen Hadfield". The Poetry Archive. Cyrchwyd 10 Ionawr 2018.
- ↑ 5.0 5.1 "Jen Hadfield (b. 1978)". Scottish Poetry Library. Cyrchwyd 9 Ionawr 2018.
- ↑ https://rsliterature.org/fellows/jen-hadfield/. dyddiad cyrchiad: 3 Gorffennaf 2025.