Jason Statham
Jason Statham | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 26 Gorffennaf 1967 ![]() Shirebrook ![]() |
Man preswyl | Llundain ![]() |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Galwedigaeth | actor, cynhyrchydd ffilm, actor llais, actor ffilm, model, plymiwr, karateka, kickboxer, martial artist ![]() |
Arddull | ffilm acsiwn ![]() |
Partner | Rosie Huntington-Whiteley, Kelly Brook ![]() |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Europa FC ![]() |
Mae Jason Statham (ganed 26 Gorffennaf 1967)[1] yn actor, crefftwr ymladd a chyn-yrrwr Seisnig. Fe'i adnabyddir am ei rolau yn ffilmiau trosedd Guy Ritchie Lock, Stock and Two Smoking Barrels (1998), Snatch (2000), a Revolver (2005). Mae hefyd wedi ymddangos mewn ffilmiau megis y drioleg acsiwn ddrama gyffrous The Transporter (2002-2008), y ffilm lladron The Italian Job (2003), y ffilm acsiwn/gomedi tywyll Crank (2006), y ffilm acsiwn War (2007), y ffilm ffuglen wyddonol acsiwn ddrama gyffrous Death Race (2008), y ffilm drosedd The Bank Job (2008) a'r gyfres acsiwn The Expendables (2010-2014). Yn 2015, serennodd Statham yn ffilm olaf y gyfres The Fast and the Furious, sef Furious 7, a gwnaeth ei ddebut comedi yn ffilm Melissa McCarthy, Spy. Fel arfer, perfformia ei ymladd llwyfan a styntiau ei hunan, ac mae'n nodedig am gael ei gastio fel gwrtharwr.