Jane Misme

Oddi ar Wicipedia
Jane Misme
GanwydJeanne Marie Joséphine Maurice Edit this on Wikidata
21 Mawrth 1865 Edit this on Wikidata
Valence, Drôme Edit this on Wikidata
Bu farw23 Mai 1935 Edit this on Wikidata
16ain bwrdeistref o Baris Edit this on Wikidata
Man preswylParis Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Ffrainc Ffrainc
Galwedigaethnewyddiadurwr, ymgyrchydd dros hawliau merched, swffragét, golygydd Edit this on Wikidata
PlantClotilde Brière-Misme Edit this on Wikidata

Ffeminist a swffragét o Ffrainc oedd Jane Misme (21 Mawrth 1865 - 23 Mai 1935) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel newyddiadurwr ac am ei hymgyrch dros hawliau merched. Hi oedd sefydlydd y cylchgrawn La Française (Y Ferch Ffrengig) a gyhoeddwyd rhwng 1906 a 1934. Roedd yn un o swyddogion yr Undeb Ffrengig o Etholfraint Merched, ac ar Gyngor Cenedlaethol Menywod Ffrainc.

Fe'i ganed yn Valence, Drôme ar 21 Mawrth 1865; bu farw yn 16ain bwrdeistref o Baris.[1][2][3][4][5][6]

Yn Ionawr 1893 sefydlodd Jeanne Schmahl gymdeithas o'r enw Avant-Courrière (Y blaen-redwr) a alwai am roi'r hawliau i fenywod. I roi hyn mewn perspectif, ni sefydlwyd y Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched yn Lloegr tan 1903, flynyddoedd yn ddiweddarach.[6] Ymunodd llawer o fenywod y dosbarth canol ac uwch gyda'r mudiad newydd hwn, ac yn eu plith Anne de Rochechouart de Mortemart (1847–1933), duges Uzès, Juliette Adam (1836–1936) a Jane Misme a Jeanne Chauvin (1862–1926), y fenyw gyntaf i dderbyn doethuriaeth yn y gyfraith.[6]

Newyddiadurwr[golygu | golygu cod]

Daeth Jane Misme yn newyddiadurwr pan oedd tua tri-deg oed, gan ysgrifennu o 1896 i 1906 mewn papurau newydd fel Le Figaro, Le Matin a'r Revue de Paris. Roedd ei herthyglau'n cynnwys pynciau fel rolau cymdeithasol menywod yn y gorffennol, a'r gyrfaoedd newydd a oedd ar gael i fenywod. Roedd hefyd yn feirniad drama ar gyfer La Fronde a L'Action o 1899 i 1905.[5] [7]

Sefydlwyd Undeb Etholfraint Menywod Ffrainc (Union française pour le suffrage des femmes; UFSF) gan grŵp o ffeministiaid a oedd wedi mynychu cyngres genedlaethol ffeministiaid Ffrengig ym Mharis ym 1908. Roedd y rhan fwyaf ohonynt o gefndiroedd bourgeois neu ddeallusol. Yr arweinwyr oedd Jeanne Schmahl a Jane Misme. Cynhaliwyd cyfarfod o 300 o fenywod ym mis Chwefror 1909 ac etholwyd Cécile Brunschvicg (1877–1946) yn ysgrifennydd cyffredinol. Schmahl oedd y llywydd cyntaf a Misme oedd is-lywydd yr UFSF o 1909 i 1935. Ymddiswyddodd Schmahl o'r UFSF yn 1911 oherwydd anghydfodau gyda Cécile Brunschvicg, er mai'r rheswm a roddwyd oedd problemau iechyd. Arhosodd Jane Misme gyda'r UFSF, a oedd â 12,000 o aelodau erbyn 1914.[8][9][8][8]

Aelodaeth[golygu | golygu cod]

Bu'n aelod o Undeb Ffrainc dros Hawl Merched i Bleidleisio a Chyngor Cenedlaethol Merched Ffrangeg am rai blynyddoedd.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]


Cyhoeddiadau dewisol[golygu | golygu cod]

  • Jane Misme (1900). Les Héroïnes historiques au théâtre Charlotte Corday. t. 10.
  • Mme. Jane Misme (1909). Pour le suffrage des femmes ... Par la française. t. 40.
  • Jane Misme (1917). Les derniers maitres d'Urville: histoire d'une famille messine.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb102221580. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/.
  2. Rhyw: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb102221580. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/.
  3. Dyddiad geni: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb102221580. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. dynodwr BnF: 102221580. "Jane Misme". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  4. Dyddiad marw: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb102221580. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. dynodwr BnF: 102221580. "Jane Misme". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  5. 5.0 5.1 Jane Misme, Archives du Féminisme.
  6. 6.0 6.1 6.2 Metz 2007.
  7. Galwedigaeth: https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/.
  8. 8.0 8.1 8.2 Hause 2002.
  9. Tartakowsky 2015.