Jane Arden
Jane Arden | |
---|---|
Ganwyd |
29 Hydref 1927 ![]() Pont-y-pŵl ![]() |
Bu farw |
20 Rhagfyr 1982 ![]() Gogledd Swydd Efrog ![]() |
Dinasyddiaeth |
![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth |
actor, cyfansoddwr, cyfansoddwr caneuon, sgriptiwr, bardd, ysgrifennwr, actor ffilm ![]() |
Priod |
Philip Saville ![]() |
Plant |
Sebastian Saville ![]() |
Actores a chynhyrchydd ffilm Cymreig oedd Jane Arden (29 Hydref 1927 – 20 Rhagfyr 1982) a sgwennodd nifer o ganeuon a cherddi yn ei thro.
Bywyd cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]
Fe'i ganwyd a'i magwyd yn 47 Heol y Twmpath, Pont-y-pŵl, Gwent ac fe'i bedyddiwyd yn Norah Patricia Morris.[1]
Astudiodd yng Ngholeg Brenhinol y Celfyddydau Dramatig (Royal Academy of Dramatic Art), Llundain, ac yn y 1940au cychwynodd yrfa ym myd y teledu a'r sinema.
Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]
Ymddangosodd yn gyntaf mewn cynhyrchiad teledu o'r ddrama Romeo and Juliet yn niwedd y 1940au, ac yna serennodd mewn dwy ffilm a wnaed yng ngwledydd Prydain: Black Memory (1947) a gynhyrchwyd gan Oswald Mitchell (gyda Sid James) a A Gunman Has Escaped (1948) gan Richard M. Grey. Ceir copiau o'r ffilmiau hyn y Archifdy 'BFI National Archive', er bod rhannau o A Gunman Has Escaped wedi mynd ar goll.