James Frederick Crichton-Stuart

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
James Frederick Crichton-Stuart
Ganwyd 17 Chwefror 1824 Edit this on Wikidata
Bu farw 24 Hydref 1891 Edit this on Wikidata (67 oed)
Dinasyddiaeth Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaeth Gwleidydd Edit this on Wikidata
Swydd Aelod o 21ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 20fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 19fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 18fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 17eg Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Tad Lord James Stuart Edit this on Wikidata

Roedd James Frederick Dudley Crichton-Stuart (17 Chwefror 182424 Hydref 1891) yn filwr Prydeinig ac yn wleidydd Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Rhyddfrydol Caerdydd rhwng 1857 a 1880

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Crichton-Stuart yn Llundain yn fab i’r Arglwydd Patrick Crichton-Stuart a’i wraig Hannah merch William Tigh Arglwydd Raglaw Kilkenny. Gwasanaethodd ei dad fel AS Caerdydd ar ddau achlysur rhwng 1826 a 1832.

Priododd Gertrude Frances merch Sir George Hamilton Seymour ym 1864 [1]. Bu iddynt bedwar o blant.

Roedd teulu Crichton-Stuart yn ddisgynyddion o Robert II, brenin yr Alban [2].

Cafodd ei addysgu yng Ngholeg Eton a Choleg y Drindod, Caergrawnt[3]

Tra’n fyfyriwr yng Nghaergrawnt bu’n rasio ceffyl yn erbyn cyd fyfyriwr a chyfaill iddo, John Nichol Luxmoore, mab Esgob Llanelwy. O herwydd natur gwyllt y ras syrthiodd Luxmoore oddi ar ei geffyl, gan gael ei ladd.[4]

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Wedi ymadael ar brifysgol ymunodd a Gwarchodlu'r Grenadwyr gan ymddeol o’r gatrawd ym 1862 yn Is-gyrnol.[5]

Gyrfa wleidyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym 1857 penderfynodd AS Rhyddfrydol Caerdydd Walter Coffin i ymddeol o’r Senedd. Dewiswyd Crichton-Stuart gan Blaid Ryddfrydol i sefyll fel ei ddarpar olynydd. Llwyddodd i gadw’r sedd i’r Rhyddfrydwyr hyd ei ymneilltuad o’r Senedd ar adeg etholiad cyffredinol 1880. Yn ystod ei gyfnod fel AS ni ynganodd air ar lawr Tŷ’r Cyffredin o blaid nac yn erbyn unrhyw bwnc, ond fe bleidleisiodd yn driw i’r achos Rhyddfrydol. Awgrymwyd yn y wasg ei fod wedi ymneilltuo o’r Senedd gan nad oedd am bleidleisio gyda’r Rhyddfrydwyr ar achos rheolaeth gartref i’r Iwerddon ond dim yn ddigon dewr i bleidleisio nac areithio yn erbyn polisi ei blaid[5].

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu farw yn 67 mlwydd oed.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "THE MARRIAGE OF COLONEL STUART MP - The Cardiff Times". David Duncan and William Ward. 1864-07-29. Cyrchwyd 2017-08-28.
  2. "THE BUTE FAMILY - The Cardiff Times". David Duncan and William Ward. 1881-06-25. Cyrchwyd 2017-08-28.
  3. John Venn Alumni Cantabrigienses: A Biographical List of All Known Students, Graduates and Holders of Office at the University of Cambridge, from the Earliest Times to 1900, Volume 2
  4. "THE FATAL ACCIDENT NEAR CAMBRIDGE - The North Wales Chronicle and Advertiser for the Principality". Kenmuir Whitworth Douglas. 1849-06-12. Cyrchwyd 2017-08-28.
  5. 5.0 5.1 "DEATH OF COL STUART - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1891-10-27. Cyrchwyd 2017-08-28.
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Walter Coffin
Aelod Seneddol Caerdydd
1857-1880
Olynydd:
Edward James Reed