James Clare

Oddi ar Wicipedia
James Clare
Enw llawn James Arthur Clare
Man geni Llundain, Lloegr
Lle marw Caerdydd, Cymru
Ysgol U. Coleg Crist, Aberhonddu
Gwaith Peilot Môr

Roedd James Arthur Clare (1857 - 4 Ionawr 1930) yn chwaraewr rygbi yn safle'r tri chwarter a anwyd yn Lloegr ond a chwaraeodd Rygbi'r Undeb rhyngwladol i Gymru a chwaraeodd rygbi clwb i Glwb Rygbi Caerdydd. Cafodd un cap yn unig, yn yr ail ornest ryngwladol rhwng Cymru a Lloegr.

Gyrfa rygbi[golygu | golygu cod]

Ganwyd Clare yn Llundain ym 1857 ond symudodd i Benarth lle daeth yn beilot yn Nociau Caerdydd, gan dywys llongau trwy'r harbwr. Wrth weithio yn ardal Caerdydd dechreuodd chwarae rygbi i Glwb Rygbi Caerdydd. Ym 1883 dewiswyd Clare i gynrychioli ei wlad fabwysiedig pan chwaraeodd i Gymru yng ngêm agoriadol y Pencampwriaeth y Gwledydd Cartref 1883 yn erbyn Lloegr. Hon oedd y drydedd gêm ryngwladol i Gymru chwarae a gêm gyntaf erioed y gêm gyntaf Pencampwriaeth y gwledydd cartref. O dan gapteiniaeth Charles Lewis, chwaraeodd Clare yn safle'r tri chwarter ynghyd â chyd aelod o dîm Caerdydd William Norton. Collodd Cymru’r gêm o ddwy gôl a phedwar cais i ddim, ac ni ddewiswyd Clare i gynrychioli Cymru eto.

Gemau rhyngwladol[golygu | golygu cod]

Cymru [1]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0-7083-0766-3.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Smith (1980), tud 465.