Neidio i'r cynnwys

Jack Jenkins

Oddi ar Wicipedia
Jack Jenkins
Jack Jenkins yn 1905
Ganwyd19 Ebrill 1880 Edit this on Wikidata
Trecelyn Edit this on Wikidata
Bu farw1 Rhagfyr 1971 Edit this on Wikidata
Hounslow Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethchwaraewr rygbi'r undeb Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auY Barbariaid, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Clwb Rygbi Cymry Llundain, Clwb Rygbi Trecelyn Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Roedd John "Jack" Charles Jenkins (19 Ebrill, 1880 - 1 Rhagfyr, 1971) [1] yn chwaraewr rygbi'r undeb rhyngwladol Cymreig oedd yn chwarae rygbi clwb ar gyfer Casnewydd a Chymry Llundain. Enillodd dim ond un cap i Gymru ym 1907 ond bu'n wynebu Seland Newydd a De Affrica ar lefel sirol gyda Middlesex a Sir Fynwy.

Hanes personol

[golygu | golygu cod]

Ganed Jenkins yn Nhrecelyn ym 1880. Cafodd ei addysg yn Ysgol Long Ashton, Bryste cyn ymaelodi a'r Coleg Milwrol Brenhinol, Sandhurst.[2] Fe'i comisiynwyd i Gyffinwyr De Cymru yn 18 oed, ond yn 1903 ymddiswyddodd o'r Fyddin Brydeinig a dilynodd gwrs cyfrifeg. Ym 1908, ymunodd â Llu Tiriogaethol Sir Fynwy, a oedd newydd ei ffurfio. Erbyn 1911 cafodd ei ddyrchafu i safle Uwchgapten, a phan ddechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf, cafodd ei anfon i Ffrainc fel Is-gyrnol, yn arwain 2il Fataliwn Catrawd Sir Fynwy.[3]

Priododd Jenkins â Helena Leigh (née Roose) chwaer y chwaraewr pêl-droed rhyngwladol Cymreig Leigh Richmond Roose.[4][5] Bu mab Jenkins, C R Jenkins yn chwarae rygbi clwb ar gyfer nifer o dimau, gan gynnwys gwasanaethu fel capten tîm Gogledd yr Iwerddon yn ystod tymor 1933/34; ac fel ei dad, wynebodd dîm teithiol De Affrica ym 1931 gan gynrychioli Ulster.

Gyrfa rygbi

[golygu | golygu cod]

Chwaraeodd Jenkins rygbi yn Ysgol Long Ashton i ddechrau, a byddai'n cynrychioli timau lleol Aberpennar a Threcelyn yn ddiweddarach. Erbyn 1901 roedd yn chwarae i dîm rygbi dosbarth cyntaf Casnewydd, gan ymddangos i'r tîm cyntaf dros gyfnod o chwe thymor gan wneud 61 ymddangosiad.[6] Yn ystod y cyfnod hwn treuliodd Jenkins lawer o'i amser yn Lloegr, a daeth yn aelod rheolaidd o dîm alltud Cymry Llundain, bu hefyd yn chware i dimau rygbi Rosslyn Park a Middlesex County. Ym 1905, wynebodd Jenkins ei wrthwynebwyr rhyngwladol cyntaf, fel rhan o dîm Middlesex i wynebu'r Crysau Duon [4] yn Stamford Bridge, yn ystod taith dramor gyntaf Seland Newydd. Collodd Middlesex y gêm yn drwm, 34-0.

Yn ystod tymor 1906-1907, bu Jenkins yn wynebu tîm teithiol De Affrica ar dri achlysur. Yn y cyfarfod cyntaf, roedd Jenkins yn chwarae i Middlesex County, gan golli 9-0 i'r Springboks yn Richmond. Ar 22 Tachwedd 1906, daeth Jenkins i Sir Fynwy wynebu Morgannwg mewn treial Cymreig ar gyfer y gêm ryngwladol rhwng Cymru a De Affrica.[7] Dyfarnwyd pedwar cap newydd gan dîm Cymru, sef Jenkins, Dick Thomas o Aberpennar, John Dyke o Benarth a Johnnie Williams o Gaerdydd. Yn y treial, o'r capiau newydd, dim ond Williams a wnaeth argraff fawr, nid oedd yr un o'r tri chwaraewr arall yn dangos gallu mawr, ond roeddent yn 'rhagori ar unrhyw un o'u cystadleuwyr heb eu capio'.[8] Ar 1 Rhagfyr 1906 enillodd Jenkins ei unig gap pan chwaraeodd ar faes San Helen Abertawe gan wynebu'r Springboks. Enillodd De Affrica'r gêm yn gyfforddus, gyda llawer o'r bai am y golled yn cael ei rhoi ar y chwaraewyr blaen. Cafodd Jenkins a Williams eu cyhuddo o 'fethu sgrymio'.[9]

Er gwaethaf y golled, roedd Jenkins yn rhan o dîm Sir Fynwy a oedd yn wynebu'r un tîm o Dde Affrica ar Ŵyl San Steffan 1906. Roedd Jenkins, ynghyd â'r capten George Travers, yn un o ddim ond dau chwaraewr â phrofiad rhyngwladol,[10] ac roedd y tîm wedi gwanhau ymhellach ar ôl i Gasnewydd wrthod rhyddhau eu chwaraewyr ar ôl dadl dros y lleoliad. Roedd De Affrica yn drech na Sir Fynwy, gan ennill 17-0, a rhoddodd Jenkins ei hun cyfle i'r gwrthwynebwyr i sgorio'r ail gais ar ôl cic gwan.[11]

Tua diwedd ei yrfa rygbi, daeth Jenkins yn fwy cysylltiedig â Chymry Llundain, ac yn nhymor 1910/11 rhoddwyd capteniaeth y clwb iddo. Chwaraeodd ran fawr hefyd fel aelod o bwyllgorau. Bu'n Ysgrifennydd Anrhydeddus rhwng 1908 a 1911.[12] Yn 1911 roedd yn un o dri aelod a ysgrifennodd rheolau aelodaeth clwb.[13] Wedi dychwelyd o'i ddyletswydd filwrol yn Ffrainc ymddiswyddodd Jenkins o'r clwb ar ôl canfod bod ymddiriedolwyr y clwb wedi gwerthu'r rhydd-ddaliad ar faes Heathfield, cartref Cymry Llundain.[14] Roedd record Jenkins yn Llundain yn drawiadol, yn ymestyn dros 12 mlynedd a 200 o gemau.[15]

Gemau rhyngwladol

[golygu | golygu cod]

Cymru [16]

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • Billot, John (1974). Springboks in Wales. Ferndale: Ron Jones Publications.
  • Jenkins, John M.; et al. (1991). Who's Who of Welsh International Rugby Players. Wrexham: Bridge Books. ISBN 1-872424-10-4.
  • Jones, Stephen; Paul Beken (1985). Dragon in Exile, The Centenary History of London Welsh R.F.C. London: Springwood Books. ISBN 0-86254-125-5.
  • Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Cardiff: University of Wales Press. ISBN 0-7083-0766-3.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Jack Jenkins player profile Scrum.com
  2. "J C JENKINS Newport - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1905-03-18. Cyrchwyd 2019-07-22.
  3. "LOCAL COMMISSIONS - Weekly Mail". Henry Mackenzie Thomas. 1899-03-11. Cyrchwyd 2019-07-22.
  4. 4.0 4.1 Jenkins (1991), tud 81.
  5. "HOLT; WEDDING OF MISS H. L. ROOSE - Cheshire Observer". James Albert Birchall. 1903-10-03. Cyrchwyd 2019-07-22.
  6. Jack Jenkins Archifwyd 2011-06-17 yn y Peiriant Wayback blackandambers.co.uk
  7. Billot (1974), tud 36-37.
  8. "New Welsh Caps - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1906-11-24. Cyrchwyd 2019-07-22.
  9. "LIEUT COLONEL J C JENKINS - The Cambria Daily Leader". Frederick Wicks. 1914-10-17. Cyrchwyd 2019-07-22.
  10. Billot (1974), tud 45.
  11. Billot (1974), tud 46.
  12. "LONDON WELSH CLUB - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1905-08-03. Cyrchwyd 2019-07-22.
  13. Jones (1985), tud 56.
  14. Jones (1985), tud 57.
  15. Jones (1985), tud 312.
  16. Smith (1980), tud 467.