J. Tywi Jones
| J. Tywi Jones | |
|---|---|
| Ganwyd | 7 Ionawr 1870 Sir Gaerfyrddin |
| Bu farw | 1948 |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | gweinidog yr Efengyl, newyddiadurwr, dramodydd |
| Priod | Elizabeth Mary Jones |
Gweinidog gyda'r Bedyddwyr, newyddiadurwr a dramodydd oedd J. Tywi Jones neu John Tywi Jones (7 Ionawr 1870 – 18 Gorffennaf 1948).
Fe'i ganed yn Henllys Lodge, ger Llanymddyfri. Addysgwyd ef yn lleol ac yna astudiodd yng Ngholeg y Bedyddwyr ym Mangor. Yn dilyn hynny fe’i hordeiniwyd yn weinidog gyda’r Bedyddwyr. Priododd ddwywaith; ar ôl marwolaeth ei wraig gyntaf, Ellen Davies, yn 1915, priododd L. M. Owen (y nofelydd ‘Moelona’). Bu’n weinidog yn Nhraeth-coch, Sir Fôn am wyth mlynedd a hanner, ac yna yn y Glais, Abertawe am naw mlynedd ar hugain, cyn ymddeol yn 1935. Roedd yn arloeswr ym myd y ddrama. Ef am flynyddoeddd oedd golygydd Y Darian, un o bapurau Cymraeg pwysicaf de-ddwyrain Cymru. Roedd yn sosialydd, yn genedlaetholwr ac yn heddychwr.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- J. Tywi Jones, Eluned Gwyn Owen neu Yr Eneth Goll (Caerfyrddin, 1914).
- J. Tywi Jones, Jac Martin, neu Bobl Llandderwydd (Caerfyrddin, 1913).
- J. Tywi Jones, Gwr y Cefen (Aberdâr, 1920).
- J. Tywi Jones, Chwedlau Hamdden (Aberdâr, 1911).
- J. Tywi Jones, Dic Sion Dafydd neu Richard Jones-Davies Esq. (Caerfyrddin, 1913). [Ailargraffiad gyda nodiadau gan yr awdur.]
- J. Tywi Jones, Y Cranc (Aberdâr, 1919).
- J. Tywi Jones, Richard Jones-Davies Esq. (Caerfyrddin, 1911).
- J. Tywi Jones, Eisteddfod y Pentre (Wrecsam, 1922).
- J. Tywi Jones, Y Bedydd Ysgrythyrol (Llanerchymedd, 1900).
- J. Tywi Jones, Dirgelwch Dig neu Gyfrinach y Ffermwyr Mawr (Aberdâr, 1908).
- J. Tywi Jones, Erthygl Di-enw, Y Darian (30 Hydref, 1919), t. 1.
Amdano
[golygu | golygu cod]- Noel Gibbard, ‘Tywi yng Nghwm Tawe', yn Hywel Teifi Edwards (gol.), Cwm Tawe (Cyfres y Cymoedd) (Llandysul, 1993), tt. 240–265.
- Noel Gibbard, Tarian Tywi: Cofiant y Parch. J. Tywi Jones (Gwasg y Bwthyn, 2011).
- Dafydd Wyn Wiliam, ‘Enllib hen nofel’, Y Casglwr, rhif 41 (1990) t. 9.
- Noel Gibbard, ‘J. Tywi Jones a'i ohebwyr’, Y Traethodydd, cyfrol 163 (2008), tt. 180–189.
- Cecil Price, ‘Towards a National Theatre for Wales’, Anglo-Welsh Review, XII, 29 (1962), 21.
- D. T. Davies, ‘The Welsh Drama: important aspects of production’, The Western Mail (17 Mawrth 1920), t. 10.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- Cwm Tawe, tt. 246–65. Who's who in Wales, 1937, t. 115
- Bywgraffiadur ar-lein y Llyfrgell Genedlaethol