John Geraint Jenkins

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o J. Geraint Jenkins)
John Geraint Jenkins
Ganwyd4 Ionawr 1929 Edit this on Wikidata
Llangrannog Edit this on Wikidata
Bu farw5 Awst 2009 Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethcuradur, hanesydd Edit this on Wikidata

Curadur Amgueddfa Werin Cymru ac awdur nifer o gyfrolau oedd John Geraint Jenkins (4 Ionawr 19295 Awst 2009)[1], yn ysgrifennu fel J. Geraint Jenkins. Bu farw yng Nghaerfyrddin yn 80 mlwydd oed.[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganed ef yn Llangrannog, Ceredigion, i deulu o forwyr. Addysgwyd ef yn Ysgol Uwchradd Aberteifi, Prifysgol Abertawe a prifysgol Aberystwyth. Treuliodd naw mlynedd yn gweithio yn yr Amgueddfa Ddiwydiant a Môr, cyn symud i Sain Ffagan i ddod yn guradur yr Amgueddfa Werin.

Wedi ymddeol, dychwelodd i Geredigion, a bu'n gynghorydd sir am ddeng mlynedd ac yn Gadeirydd y Cyngor yn 2002–03.

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Priododd Nansi Jarman yn 1954 a roedd ganddynt tri mab - David, Gareth a Richard, bu farw yn 2000.[2]

Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod]

  • The Welsh Woollen Industry (1969)
  • Nets and Coracles (1974)
  • Ar lan hen afon: golwg ar ddiwydiannau afonydd Cymru
  • Morwr Tir Sych (hunangofiant)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Stephens, Meic. J. Geraint Jenkins: Maritime historian and authority on rural crafts (en) , The Independent, 24 Medi 2009.
  2.  Y Dr J. Geraint Jenkins, 1929-2009. Amgueddfa Cymru (28 Awst 2009). Adalwyd ar 1 Chwefror 2016.