Iwerddon Newydd

Oddi ar Wicipedia
Iwerddon Newydd
Mathynys Edit this on Wikidata
PrifddinasKavieng Edit this on Wikidata
Poblogaeth100,000 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolYnysoedd Bismarck Edit this on Wikidata
SirNew Ireland Province Edit this on Wikidata
GwladBaner Papua Gini Newydd Papua Gini Newydd
Arwynebedd7,405 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr2,379 metr Edit this on Wikidata
GerllawMôr Bismarck Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau3.33°S 152°E Edit this on Wikidata
Map

Ynys yn perthyn yn wleidyddol i Papua Gini Newydd yw Iwerddon Newydd (Saesneg New Ireland). Saif i'r dwyrain o ynys Gini Newydd ac i'r gogledd-ddwyrain o ynys Prydain Newydd. Hi yw'r ail-fwyaf o Ynysoedd Bismarck, gydag arwynebedd o 8,650 km², a phoblogaeth o tua 100,000. Mae hefyd yn ffurfio rhan o dalaith Iwerddon Newydd, gyda Kavieng fel prifddinas.

Lleoliad Iwerddon Newydd

Mae Iwerddon Newydd yn ynys hir a chul, dros 400 km o hyd ond dim ond 6 – 10 km o led heblaw yn y de-ddwyrain. Mynydd Taron (2,379 medr) yw'r copa uchaf. Yr Ewropeaid cyntaf i gyrraedd yr ynys oedd Jacob Le Maire a Willem Cornelisz Schouten o'r Iseldiroedd yn 1616.