Môr Bismarck
![]() | |
Math | môr ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl | Otto von Bismarck ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Y Cefnfor Tawel ![]() |
Gwlad | Papua Gini Newydd ![]() |
Arwynebedd | 361,000 km² ![]() |
Cyfesurynnau | 3.77°S 148°E ![]() |
![]() | |
Rhan o'r Cefnfor Tawel de-orllewinol yw Môr Bismarck.
Daearyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
I'r gorllewin diffinir Môr Bismarck gan arfordir gogledd-ddwyreiniol ynys Gini Newydd, i'r gogledd gan Ynysoedd Admiralty, i'r dwyrain gan ynys Hanover Newydd ac Iwerddon Newydd ac i'r de gan Brydain Newydd.
Mae gan y môr cylchedd o tua 800 km sy'n cynnwys tua 40.000 km sgwar. Mae'n weddol ddwfn ac yn cyrraedd dyfnder o 2900 metr yn ei bwynt dyfnaf. Yn y de ceir culforoedd Vitiaz, Dampier a Sianel San Siôr sy'n ei gysylltu â Môr Solomon. I'r gogledd a'r dwyrain mae'n ymuno â'r Cefnfor Tawel ei hun.
Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]
Cafodd y môr ei enwi'n 'Bismarck' er anrhydedd y canghellor Almaenig Otto von Bismarck.
Yn yr Ail Ryfel Byd ymladdwyd brwydr fawr ar ei ddyfroedd rhwng yr ail a'r 4 Mawrth, 1943, a adnabyddir fel Brwydr Môr Bismarck, rhwng llynges ac awyrlu'r Cynghreiriaid a llynges Siapan.