Ivor Rees

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Ivor Rees
Ivor Rees VC IWM Q 70903.jpg
Ivor Rees
Geni (1893-10-18)18 Hydref 1893
Felinfoel, Cymru
Bu farw 11 Mawrth 1967(1967-03-11) (73 oed)
Llanelli, Cymru
Teyrngarwch Baner Y Deyrnas Unedig Prydain Fawr
Gwasanaeth Flag of the British Army.svg Y Fyddin Brydeinig
Rheng Uwch-ringyll
Uned Cyffinwyr De Cymru
Gwarchodlu Cartref
Brwydrau/rhyfeloedd Rhyfel Byd Cyntaf
Ail Ryfel Byd
Gwobrwyon Croes Fictoria

Derbynydd Cymreig o'r Groes Fictoria, yr addurn milwrol uchaf sy'n cael ei gyflwyno am wroldeb "yng ngŵydd y gelyn" i aelodau'r lluoedd arfog yng ngwledydd y Gymanwlad a chyn diriogaethau'r Ymerodraeth Brydeinig, oedd Ivor Rees VC (18 Hydref 189311 Mawrth 1967).

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Rees yn Felinfoel ar 18 Hydref 1893 y pumed o saith o blant i David ac Anne Rees[1]. Ar ôl gadael yr ysgol aeth i weithio yng Waith Dur, Llanelli hyd nes i'r Rhyfel Mawr gychwyn pan ymunodd Rees â'r 11eg Bn. Cyffinwyr De Cymru ar 9 Tachwedd 1914.

Roedd y Cyffinwyr yn rhan o 38in Adran (Gymreig) y Fyddin fu'n brwydro yn Mametz Wood cyn symud i Ypres, lle roeddent yn rhan o'r frwydr i geisio cipio Crib Pilckem yn Nhrydedd Brwydr Ypres.

Dyfarniad y VC[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar 31 Gorffennaf 1917 cafodd Bye ei enwbu am y Groes Fictoria yn dilyn y weithred a ddisgrifir yma:

Ar 31 Gorffennaf 1917 yn Pilckem, Gwlad Belg, roedd dryll peiriannol yn achosi nifer o golledion. Llwyddodd Sarjant Rees i arwain ei blatŵn yn raddol o amgylch yr adain dde tuag at gefn safle'r dryll. Pan roedd 20 llath o'r dryll, brysiodd Sarjant Rees tuag ato gan saethu un o'r milwyr a thrywanu'r llall gyda'i fidog. Llwyddodd i fomio safle concrit gan ladd pump o'r gelyn a chymnryd 30 o garcharorion, gan gynnwys dau swyddog a chipio dryll peiriannol.

— London Gazette, 14 Medi 1917[2]

Mae ei Groes Fictoria yn cael ei arddangos yn Amgueddfa Cyffinwyr De Cymru yn Aberhonddu, Powys

Wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf[golygu | golygu cod y dudalen]

Wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf dychwelodd i Lanelli ac yn ystod yr Ail Ryfel Byd roedd yn Uwch-ringyll yn y Gwarchodlu Cartref (2il Bataliwn Sir Gaerfyrddin). Bu farw yn Llanelli ar 12 Mawrth 1967.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Williams, Alistair. Heart of a Dragon: The VCs of Wales and the Welsh Regiments. Bridge Books. p. 164. ISBN 978144940288 Check |isbn= value: length (help).
  2. London Gazette: (Supplement) no. 30284. pp. 9532–9533. 1917-9-14.