Isaiah Berlin
| Isaiah Berlin | |
|---|---|
| Ganwyd | Jesaja Berlins 6 Mehefin 1909 Riga |
| Bu farw | 5 Tachwedd 1997 Rhydychen, Acland Hospital |
| Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Ymerodraeth Rwsia |
| Alma mater |
|
| Galwedigaeth | athronydd, hanesydd, academydd, diplomydd, hanesydd syniadau, cymdeithasegydd, gwyddonydd gwleidyddol |
| Cyflogwr | |
| Adnabyddus am | Two Concepts of Liberty |
| Arddull | Rhyddfrydiaeth |
| Prif ddylanwad | Robin George Collingwood, Raymond Aron |
| Tad | Menachem Mendel Berlin |
| Mam | Marie Moosa Berlin |
| Gwobr/au | CBE, Gwobr Erasmus, Gwobr Jeriwsalem, Ehrendoktor der Universität Tel Aviv, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Caergrawnt, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Rhydychen, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Harvard, Honorary doctor of the University of Bologna, doethuriaeth anrhydeddus o Brifysgol Genedlaethol Kapodistrian, Athen, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Toronto, Cymrawd yr Academi Brydeinig, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America, Marchog Faglor, Urdd Teilyngdod |
Athronydd o Loegr oedd Syr Isaiah Berlin OM CBE FBA (6 Mehefin 1909 – 5 Tachwedd 1997). Ef oedd sylfaenydd ac Arlywydd gyntaf Coleg Wolfson, Rhydychen.
Fe'i ganwyd yn Riga, oedd yn rhan o Ymerodraeth Rwsia ar y pryd ond sydd bellach yn brifddinas Latfia. Wedi cyfnod yn St Petersburg, symudodd y teulu i Loegr yn 1929. Cafodd ei addysg yn Ysgol Sant Pawl, Llundain, ac yng Ngholeg Corpus Christi, Rhydychen. Priododd Aline Halban, née de Gunzbourg, ym 1956.
Enillodd Wobr Erasmus ym 1983.[1]
Bu farw yn Rhydychen a chladdwyd ef ym Mynwent Wolvercote.
Gwaith athronyddol
[golygu | golygu cod]Nid oedd Berlin yn hoff o ysgrifennu fel y cyfryw - byddai'n datgan ei draethodau ar lafar ac roedd yn rhaid i'w ysgrifenyddion drawsgrifio'r cyfan. Trawsgrifiadau o ddarlithoedd yw nifer o'i weithiau nodedig, megis Two Concepts of Liberty ac Historical Inevitability.
Mewn darlithoedd ac yn casgliad o draethodau Three Critics of the Enlightenment, bu'n ail-ymweld â gwaith Johann Gottfried von Herder, Johann Georg Hamann ac eraill oedd yn beirniadu gwerthoedd yr Oleuedigaeth ac yn gosod seiliau rhamantiaeth.
Roedd yn arddel y syniad bod gwahanol werthoedd moesol yn gallu bod cyn bwysiced â'i gilydd (value pluralism), a'r syniad bod yn rhaid i ryddid ddod gyda'r grym a'r adnoddau i weithredu (positive liberty).
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) "Former Laureates: Isaiah Berlin". Praemium Erasmianum Foundation. Cyrchwyd 24 Mehefin 2017.[dolen farw]