Isadain felen fawr
Noctua pronuba | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | |
Urdd: | Lepidoptera |
Teulu: | Noctuidae |
Genws: | Noctua |
Rhywogaeth: | N. pronuba |
Enw deuenwol | |
Noctua pronuba (Linnaeus, 10ed rhifyn o: Systema Naturae, 1758) | |
Cyfystyron | |
|
Gwyfyn eitha mawr sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw isadain felen fawr, sy'n enw benywaidd; yr enw lluosog ydy isadenydd melyn mawr (-ion); yr enw Saesneg yw Large Yellow Underwing, a'r enw gwyddonol yw Noctua pronuba.[1][2] Fe'i ceir drwy Ewrop ac yn eitha cyffredin; fe'i ceir hefyd o Ogledd Affrica hyd at India. Mae'n hoff iawn o deithio'n bell ar adegau.
Mae hyd ei adenydd yn 50–60 mm. Mae'n cael ei atynnu at olau ac at flodau megis Buddleia, Senecio, a Valeriana officinalis.
Cyffredinol
[golygu | golygu cod]Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.
Wedi deor o'i ŵy mae'r isadain felen fawr yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.
Enwau
[golygu | golygu cod]Noctua pronuba yw’r enw a roes Linneaus arno, a hynny am reswm ychydig yn risqué. Mae’r adennydd pwl, gwinau yn cuddio flach o isadain oren trawiadol (i ddychryn aderyn sy’n ceisio’i ddal mae’n debyg). Ond ffansi Linneaus oedd bod yr isadain liwgar yn ei atgoffa o bais merched yn yr oes sedét a phiwritanaidd yr oedd yn byw ynddo... pronuba, pronuptial, morwyn briodas - oes rhaid dweud mwy? Y syniad oedd bod y fflach o liw ar bais y merched hyn yn ddigon i gynhyrfu dyn. Enwodd eraill o deulu’r isadennydd melyn wrth enwau awgrymog tebyg, ee. Noctua comes (=gwraig byw tali).[3]
-
Ar lawr y goedwig yn Gatineau Park, Quebec
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
- ↑ Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.
- ↑ Bwletin Llên Natur rhif 32