Is-etholiad Cyngor Sir Ceredigion, 2008
| Enghraifft o: | is-etholiad |
|---|---|
| Dyddiad | 10 Gorffennaf 2008 |
| Dynodwyr | |
Cynhaliwyd Is-etholiad Cyngor Sir Ceredigion, 2008 ar gyfer ward Rheidol, Aberystwyth, ar 10 Gorffennaf.[1]
Ymddeolodd Eric John Griffiths yn fuan wedi iddo gael ei ethol yn dilyn y rhybydd a dderbyniodd gan yr heddlu am "drosedd rhywiol". Gorfodwyd iddo roi ei enw ar y cofrestr troseddwyr rhywiol.[2]
Bu ymryson pan wrthodwyd cais Maer Aberystwyth ar y pryd, Lorrae Jones-Southgate, i fod yn ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn yr is-etholiad. Dywedodd na allai gario'm mlaen yn ei swydd fel Maer os nad oedd ganddi gefnogaeth ei phlaid, a hithau eisoes wedi cynychioli'r ward ar gyngor y dref ers pedair mlynedd.[3]
Cyhuddwyd Plaid Cymru o chwarae'n chwerw gan y Democratiaid, pan gyfeirwyd at ymddiswyddiad Griffiths, y diffyg hyder yn Jones-Southgate, a'r ffaith fod yr ymgeisydd Democrataidd yn gweithio yn Llundain ar y pryd.[2]
Yn dilyn yr etholiadau, dyma oedd sefyllfa'r cyngor:
- Plaid Cymru 20
- Y Democratiaid Rhyddfrydol 9
- annibynnol 11
- Llafur 1
- Annibynnol, dim plaid 1
Crynodeb Canlyniadau'r Is-etholiad
[golygu | golygu cod]| Ardal Aberystwyth: Rheidol | |||||
|---|---|---|---|---|---|
| Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
| Plaid Cymru | Aled Davies | 271 | 40.09 | ||
| Democratiaid Rhyddfrydol | Alexander James Dauncey | 252 | 37.28 | ||
| Annibynnol | Carol Ann Kolczak | 98 | 14.50 | ||
| Llafur | Rhichard Anthony Boudier | 36 | 5.33 | ||
| Ceidwadwyr | Luke William Ashley Evetts | 17 | 2.51 | ||
| Mwyafrif | 19 | 2.81 | |||
| Y nifer a bleidleisiodd | 676 | ||||
| Plaid Cymru yn disodli Democratiaid Rhyddfrydol | Gogwydd | ||||
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Rheidol Ward, Aberystwyth by-election 10 July 2008. Cyngor Sir Ceredigion.
- 1 2 Martin Shipton. Liberal Democrats accuse Plaid of dirty tactics in county council by-election.
- ↑ Aber mayor quits over by-election. BBC (11 Mehefin 2008).