Irmandades da Fala

Oddi ar Wicipedia
Brawdoliaeth yr Iaith, 1917, arwyddwyd gan Vilar Ponte.

Mudiad cenedlaetholgar a gwladgarol o Galisia oedd Irmandades da Fala ('Brawdoliaeth yr Iaith') a oedd yn weithredol rhwng 1916 ac 1936. Hwn oedd y mudiad cyntaf i ddefnyddio Galisieg fel eu hunig gyfrwng.

Yn 1915 galwodd Aurelio Ribalta, awdur Galisieg o Fadrid, i'w bobl amddiffyn yr iaith. Ar y 6ed o Ionawr y flwyddyn dilynol, sefydlodd Antón Vilar Ponte ymgyrch i sefydlu Mudiad Cyfeillion yr Iaith yn y papur newydd La Voz de Galicia ac ym Mawrth 1916 cyhoeddodd "Cenedlaetholdeb Galisiaidd (Nodiadau ar gyfer Llyfr)" ble crynhodd ei ddaliadau a'r dadleuon dros amddiffyn y Galisieg.

Cytunwyd a'i ddadleon gan lawer o arweinwyr ar draws y sbectrwm gwleidyddol, ac yn bwysicaf: Antón Losada Diéguez, y mudiad Traddodiadol (neu 'Geidwadol') a'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Cafwyd dros 27 o ganghennau lleol o fewn dim ac aethpwyd ati i drefnu sioeau blodau, sesiynnau adrodd, cyrsiau dysgu Galisieg ayb ac yn etholiad 1918, cynrychiolwyd y mudiad newydd gan ddau berson.[1][2] Hyrwyddo diwylliant ac iaith oedd bwriad y Mudiad.[3].

Ar 14 Tachwedd 1916 sefydlodd Antón Vilar Ponte gylchgrawn gyda chylchrediad o oddeutu 1,800 - 'Ein Tir' (A Nosa Terra).

Amcanion[golygu | golygu cod]

Yng Nghyngres Tachwedd 1918 yn ninas Lugo, sefydlwyd eu Rhaglen Waith a oedd yn cynnwys yr Amcanion hyn:

  1. Prif Amcanion:
    1. Annibyniaeth lwyr i Galicia
    2. Datganoli pwer i'r rhanbarthau
    3. Ymuno â Chynghrair y Cenhedloedd
    4. Undeb Ffederal gyda Phortiwgal
  2. Hefyd:
    1. Hawl i Lywodraeth Galisia i ddeddfu; ac i bobl y wlad eu hethol mewn dull democrataidd.
    2. Pwer i ddeddfu a chynal llysoedd barn
    3. Deddfau tribiwnlysoedd annibynnol i Galisia heb ymyrraeth gan Sbaen
    4. Y Galisieg a'r Sbaeneg i fod yn ieithoedd swyddogol, o'r un statws
    5. Hawliau cyfartal i'r ddau ryw - merched a dynion

Oriel luniau[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Vilar Ponte, Antón, Nacionalismo gallego, nuestra afirmación regional, A Coruña, Voz de Galicia, 1916; o texto tirouse de VV.AA., Lingua e literatura II, Rodeira, 2003, A Coruña, páx. 142
  2. Fernández del Riego, F.: Historia da literatura. Editorial Galaxia, 1984, px. 123. ISBN 84-7154-462-8.
  3. Justo G. Beramendi e Xosé Manuel Seixas (1996) O nacionalismo galego, Vigo:A Nosa Terra, páx. 132-133