Irene (ymerodres)

Oddi ar Wicipedia
Irene
Ganwydc. 752 Edit this on Wikidata
Athen Edit this on Wikidata
Bu farw9 Awst 803 Edit this on Wikidata
Lesbos Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Ymerodraeth Fysantaidd Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddYmerawdwr Bysantaidd, rhaglyw, ymerodres Gydweddog Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl7 Awst Edit this on Wikidata
PriodLeo IV the Khazar Edit this on Wikidata
PlantKonstantinos VI Edit this on Wikidata
LlinachIsaurian dynasty Edit this on Wikidata
Darn arian solidus gyda delw Irene

Ymerodres Fysantaidd rhwng 797 a 802 oedd Irene, Groeg: Ειρήνη, Eirēnē (c. 7529 Awst, 803). Defnyddiai'r teitl basileus (βασιλεύς), "ymerawdwr", yn hytrach na basilissa (βασίλισσα), "ymerodres."

Ganed Irene yn Athen, a daethpwyd a hi i Gaergystennin fel merch amddifad gan yr ymerawdwr Cystennin V. Yn 769 priododd ei fab, Leo IV. Yn 771 cafodd fab, a ddaeth yn ymerawdwr fel Cystennin VI pan fu farw ei gŵr yn 780. Oherwydd ei oed, gweithredai Irene fel rheolwr y deyrnas.

Llwyddodd i orchfygu nifer o wrthryfeloedd yn ei herbyn, ac adferodd yr arfer o ddefnyddio delwau neu eiconau mewn addoliad. Bu'n ymladd yn erbyn y Ffranciaid, a gipiodd Istria a Benevento yn 788, ac yn erbyn y Califfiaid Abbasaidd Al-Mahdi a Harun al-Rashid.

Wrth i Gystennin VI ddod yn hŷn, daeth yn anfodlon fod y grym yn nwylo ei fam. Bu gwrthryfel yn 790, pan gyhoeddodd milwyr y gard Armenaidd Cystennin fel unig ymerawdwr. Yn 797 cymerodd Irene ei mab yn garcharor, a'i ddallu. Bu farw o'i anafiadau rai dyddiau'n ddiweddarach.

Nid oedd Pab Leo III yn barod i gydnabold merch fel rheolwr, ac yn 800 coronodd Siarlymaen fel Ymerawdwr Glân Rhufeinig. Gwaethygodd hyn y berthynas rhwng yr Eglwys Gatholig a'r Eglwys Uniongred, er y dywedir i Irene gynnig priodi Siarlymaen.

Yn 802, bu cynllwyn yn ei herbyn, a daeth Nikephoros I yn ymerawdwr. Alltudiwyd Irene i ynys Lesvos, lle gorfodwyd hi i ennill ei chynhaliaeth trwy nyddu. Bu farw y flwyddyn wedyn. Ystyrir hi yn sant gan yr Eglwys Uniongred.