Lesbos
| Math | ynys |
|---|---|
| Poblogaeth | 83,800 |
| Cylchfa amser | EET |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | East Aegean Islands |
| Lleoliad | Môr Aegeaidd |
| Sir | Gogledd Aegeaidd, Lesbos Regional Unit |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 1,641 km² |
| Uwch y môr | 968 metr |
| Gerllaw | Môr Aegeaidd |
| Cyfesurynnau | 39.21°N 26.28°E |
| Cod post | 810–819 |
![]() | |
Ynys Roeg yn y Môr Aegeaidd yw Lesbos (Groeg ddiweddar: Lésvos). Un o'r Ynysoedd Gogledd Aegeaidd, mae'n gorwedd yn agos iawn i dir mawr Twrci. Ei chanolfan yw dinas Mitilene (weithiau gelwir yr ynys ei hun 'Mitilini' nei 'Mitilene', ar ôl ei brif ddinas). Tyfir yr olewydden a chnydau grawn yno. Mae pysgota sardîns yn bwysig hefyd ond y prif ddiwydiant heddiw yw twristiaeth. Ar ôl Crete ac Euboea Lesbos yw'r fwyaf o'r ynysoedd Aegaeaidd.
Ceir olion presenoldeb pobl o'r oes Neolithig ar Lesbos. Ymsefydlodd y Groegiaid ar yr ynys tua 1000 CC. Blodeuodd diwylliant Groeg yno ac fe'i cysylltir yn arbennig â barddoniaeth Roeg delynegol a gwaith Sappho ac Alcaeus. Roedd yr ynys yn rhan o Aeolis ac yn aelod o Gynhgrair Delos yng Ngroeg yr Henfyd. Yn ddiweddarach daeth i feddiant y Rhufeiniaid a gwnaethpwyd Mitilene yn borthladd rhydd ganddynt.
Codwyd nifer o eglwysi hardd yno ar ddechrau'r cyfnod Bysantaidd. Roedd yn arfer alltudio pobl i Lesbos, e.e. yr ymerodres Irene yn 809. Yn ystod y canrifoedd nesaf newidiai ddwylo yn aml rhwng y Bysantiaid, y Croesgadwyr, y Saraseniaid a'r Tyrciaid. Syrthiodd i'r Otomaniaid yn 1462. Brodor o'r ynys oedd y môr leidr Khair-ed-din Barbarossa. Daeth yn rhan o Wlad Groeg yn 1912.
